Trin a llwytho ceffylau rasio i mewn i safleoedd cychwyn cyn ras
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thrin a llwytho ceffylau rasio i mewn i safleoedd cychwyn cyn ras. Mae'n gofyn am gyswllt gyda swyddogion a jocis. Mae hefyd yn cynnwys trin ceffylau cyn ac yn ystod mynd i mewn i'w safleoedd, gan sicrhau bod gweithdrefnau diogel yn cael eu dilyn bob amser.
Mae'r safon yn gofyn am waith tîm agos cyn dechrau'r ras yn ogystal â threfniadau gwaith prydlon a chywir.
Mae'r safon hon hefyd yn cynnwys cynnal a chadw cyffredinol, defnydd a symud safleoedd cychwyn ar gae rasio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- sefydlu'n glir eich rôl a'ch cyfrifoldebau gyda thîm y safleoedd cychwyn
- gwirio safleoedd cychwyn am ddiogelach a gweithrediad cyn ras
- dewis y ceffyl rasio penodol a chysylltu â swyddogion a'r jocis ar gyfer y drefn gywir ar gyfer llwytho
- trin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn achosi pryder o ran lles anifeiliaid ac sydd yn cynnal iechyd a diogelwch.
- cadarnhau trefniadau gyda'r joci a'r swyddogion, yn cynnwys cynorthwyo os oes angen gwneud gwiriadau terfynol i harneisiau/pedolau
- trin a llwytho ceffylau rasio i mewn i safleoedd cychwyn yn ddiogel ac o fewn y graddfeydd amser cytûn
- ymateb i geisiadau gan aelodau eraill o'r tîm wrth lwytho ceffylau rasio anodd ac amhrofiadol
- cau gatiau cychwyn gan sicrhau eich diogelwch eich hun, diogelwch y ceffylau a phobl eraill
- cynnal yr holl weithdrefnau llwytho yn unol â'r gofynion a'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol
- cwblhau gwiriadau a chofnodion ar ôl y ras
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich cyfrifoldebau yn ymwneud â gweithdrefnau dechrau'r ras
- y defnydd o stondinau cychwyn a'u cynnal a'u cadw
- pwysigrwydd defnyddio technegau trin ac atal, a lleihau straen i'r ceffyl a'r peryglon i chi eich hun ac i eraill
- pwysigrwydd gweithdrefnau llwytho cywir a phrydlon
- seicoleg sylfaenol ceffylau o dan straen
- sut i drin a llwytho ceffylau rasio gan ystyried amser, diogelwch a lles
- sut i drin a llwytho ceffylau rasio anodd neu amhrofiadol
- sut i weithio'n effeithiol mewn tîm
- sut i gyfathrebu'n effeithiol gyda chydweithwyr, swyddogion a jocis
- sut i adnabod a thrin problemau gyda cheffylau a harneisiau
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol