Gyrru parau o geffylau harnais ar gyfer ymarfer, ffitrwydd a hyfforddi
URN: LANEq341
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu gyrru parau o geffylau harnais ar gyfer ymarfer, ffitrwydd a hyfforddi. Mae'n cynnwys gallu gyrru parau o geffylau harnais yn gywir ac yn effeithiol mewn ardal gaeëdig, ar lwybrau oddi ar y ffordd a thraws gwlad yn ogystal â gallu gyrru'n ddiogel ar y briffordd gyhoeddus.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- dewis yr harnais a'r cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau sy'n briodol ar gyfer y ceffyl ac at y defnydd a fwriedir
- cynnal gwiriadau diogelwch cyn gyrru fel mater o drefn, harneisio'r ceffyl a'i gysylltu â'r cerbyd
- gyrru parhau o geffylau harnais ar gyfer ymarfer, ffitrwydd a hyfforddi
- gyrru gan drin y ffrwyn gan ddefnyddio Arddull Hyfforddi Saesnig
- defnyddio'r chwip gyrru yn gywir ac yn briodol
- cymryd camau priodol wrth yrru o amgylch cerddwyr, cŵn, da byw, peiriannau ac wrth ddod ar draws gwrthrychau, gweithgareddau neu synau anarferol
- gyrru i fyny ac i lawr graddiant yn gywir
- aros a symud i ffwrdd yn llyfn ar ôl aros
- gwneud defnydd effeithiol o'r gwas ceffyl harnais
- cadw rheolaeth dros y ceffylau bob amser
- gyrru parhau o geffylau harnais mewn cwmni gyda cheffylau eraill
- lleihau straen ar y ceffyl wrth yrru
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldeb mewn perthynas â gyrru parau o geffylau harnais ar gyfer ymarfer, ffitrwydd a hyfforddi
- sut i ddewis yr harnais a cherbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau sy'n briodol i'r ceffylau a'r defnydd a fwriedir
- sut i gynnal eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, tra'n gyrru
- sut i adnabod arwyddion straen a salwch yn y ceffyl a sut i ddileu neu leihau'r rhain wrth yrru
- sut i gadw rheolaeth dros y ceffylau tra'n harneisio, gosod/cymryd allan, gyrru a thra'n sefyll
- sut i wneud defnydd effeithiol o'r gwas ceffylau harnais
- sut i yrru gan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd a chyfathrebu gyda nhw'n effeithiol
- sut i gyflawni cyfres o symudiadau gyrru mewn ardal gaeëdig at ddibenion ffitrwydd, hyfforddiant neu ymarfer
- sut i gadw rheolaeth dros y ceffylau sy'n cael eu gyrru mewn ystod o sefyllfaoedd
- sut i adnabod arwyddion o draul neu niwed i'r harnais neu'r cerbyd tra'n gyrru, a pha gamau i'w cymryd
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq341
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; harnais; gyrru