Gyrru ceffylau harnais unigol at ddibenion masnachol
URN: LANEq340
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu gyrru ceffylau harnais unigol at ddibenion masnachol. Mae'n cynnwys gallu dewis ceffylau ar gyfer gwaith masnachol yn unol â'u gallu corfforol a'u ffitrwydd, eu natur, eu profiad a'u hymddangosiad. Byddwch yn deall sut i sefydlu ac addasu'r harnais er mwyn cael y perfformiad gorau.
Mae'r safon hon yn cynnwys gallu cyfeirio gweithgareddau'r criw gweision ceffylau harnais tra'n paratoi ceffyl i gael ei yrru, gosod/mynd allan a thra'n gyrru.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- asesu natur ceffylau unigol, a gwerthuso eu sefydlogrwydd ar gyfer ystod o ddefnyddiau masnachol
- dewis cerbydau sy'n cael eu gyrru gan geffylau ar gyfer ystod o ddibenion, sydd yn addas ar gyfer y diben masnachol a fwriedir
- dewis a gosod yr harnais ar y ceffyl
- cynnal gwiriadau cyn gyrru fel mater o drefn ar y ceffylau, yr harnais a'r cerbyd
- cyfeirio gweithgareddau'r criw o weision ceffylau harnais i'w cynorthwyo i gynnal diogelwch a lles y ceffylau a'r teithwyr
- gyrru ceffylau harnais unigol at ddibenion masnachol yn unol â gofynion deddfwriaethol perthnasol a chodau ymarfer, gan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd
- monitro ymddygiad y ceffylau tra'n gyrru, gan gymryd camau cadarnhaol i leihau straen a chynnal eu lles
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i nodi'r dibenion masnachol y caiff y ceffyl unigol ei ddefnyddio ar eu cyfer
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn gyrru ceffylau harnais unigol at ddibenion masnachol
- sut i asesu ffitrwydd a gallu ceffylau unigol ar gyfer gwaith masnachol
- sut i asesu natur ac ymddygiad ceffylau unigol
- sut i osod, sefydlu ac addasu'r harnais i gael y perfformiad gorau
- sut i ddewis cerbydau masnachol addas sy'n cael eu tynnu gan geffylau
- sut i fonitro ceffylau unigol wrth yrru
- sut i leihau straen a sut i hybu lles y ceffyl yn gadarnhaol tra'n gyrru
- sut i gyfeirio'r criw o weision ceffylau harnais i gynorthwyo cadw rheolaeth yn effeithiol, a diogelwch a lles y ceffyl a'r teithwyr tra'n gyrru
- sut i reoli diogelwch gwylwyr a chyfranogwyr mewn gweithgareddau masnachol
- y gofynion deddfwriaethol perthnasol a'r codau ymarfer sy'n ymwneud â gyrru ceffylau harnais unigol ar briffyrdd cyhoeddus at ddibenion masnachol
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq340
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; harnais; gyrru