Cefnogi’r gwaith o hyfforddi ceffylau i weithio mewn harnais

URN: LANEq339
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi'r gwaith o hyfforddi ceffylau i weithio mewn harnais. Byddwch yn gallu cefnogi hyfforddwr y ceffyl harnais i hyfforddi ceffylau i weithio mewn harnais, yn cynnwys cyflwyno cymhorthion llais, eitemau harnais, tynnu pwysau a cherbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau neu declynnau amaethyddol i geffylau yn ystod cyfnodau amrywiol hyfforddiant.

Mae'n gofyn am y gallu i drin ceffylau ifanc, dibrofiad, yn ogystal â cheffylau aeddfed sy'n cael eu hyfforddi ar gyfer rôl newydd, a gwybodaeth a dealltwriaeth o ymddygiad ceffyl a'r gallu i adnabod arwyddion o straen yn y ceffyl.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. gweithio gydag eraill i gefnogi'r gwaith o weithredu rhaglen wedi ei dylunio i hyfforddi ceffylau unigol i weithio mewn harnais
  3. monitro adweithiau ceffylau unigol i bob cyfnod o hyfforddiant
  4. adrodd ar effeithiolrwydd pob cyfnod o hyfforddiant, ac adweithiau ceffylau unigol
  5. cyfrannu at adolygu'r rhaglen a'r dulliau hyfforddiant
  6. gweithredu diwygiadau cytûn i'r rhaglen hyfforddi ac ailwerthuso'r rhaglen/dulliau hyfforddi diwygiedig
  7. cyflwyno cymhorthion llais, synau, eitemau harnais, tynnu pwysau, a cherbydau neu declynnau sy'n cael eu tynnu gan geffyl i'r ceffyl newydd yn yr hyfforddiant
  8. monitro iechyd a lles ceffylau, a nodi arwyddion o straen yn ystod hyfforddiant
  9. cymryd camau priodol i ddileu neu leihau straen
  10. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn cefnogi'r gwaith o hyfforddi ceffylau i weithio mewn harnais
  3. egwyddorion hyfforddi ceffylau i weithio mewn harnais
  4. ymddygiad ceffylau a sut y mae hyn yn berthnasol i'r rhaglen hyfforddi
  5. dulliau hyfforddiant gwaraidd ac effeithiol
  6. sut i adnabod arwyddion o straen mewn ceffylau yn ystod hyfforddiant
  7. sut i asesu effeithiolrwydd pob cyfnod o hyfforddiant
  8. sut i adrodd ar effeithiolrwydd ac adweithiau ceffylau unigol i bob cyfnod o hyfforddiant,
  9. sut i wneud cyfraniad effeithiol i drafodaethau yn ymwneud â diwygio cynlluniau hyfforddiant
  10. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  11. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEa339

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; harnais; hyfforddiant