Cyfrannu at y defnydd o geffylau ar gyfer gwaith amaethyddol

URN: LANEq338
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at y defnydd o geffylau ar gyfer gwaith amaethyddol. Mae'n cynnwys gallu darparu gofal fel mater o drefn ar gyfer ceffylau, paratoi ceffylau ar gyfer gwaith, hybu gofal a lles ceffylau yn ystod eu gwaith, a gofalu amdanynt ar ôl gwaith. Mae gwaith amaethyddol hefyd yn cynnwys gwaith coedwigaeth.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n gofalu am geffylau a ddefnyddir ar gyfer gwaith amaethyddol.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. nodi ceffylau priodol ar gyfer y gwaith amaethyddol a fwriedir, yn unol â math, hyfforddiant, ffitrwydd a nifer
  3. nodi harneisiau ac offer sy'n briodol ar gyfer y defnydd a fwriedir
  4. cyfrannu at y defnydd o geffylau ar gyfer gwaith amaethyddol trwy baratoi ceffylau, harneisiau ac offer ar gyfer y defnydd a fwriedir
  5. cymryd cyfrifoldeb dros weithio gydag eraill a'u goruchwylio wrth baratoi ceffylau, harneisiau ac offer ar gyfer gwaith amaethyddol
  6. gofalu am les ceffylau cyn, yn ystod ac ar ôl gwaith amaethyddol
  7. cynorthwyo'r gwaith o symud offer i mewn i'r safle cyn eu defnyddio a'u storio ar ôl eu defnyddio
  8. glanhau, cynnal gwiriadau a gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn, a storio cerbydau rhwng defnydd
  9. defnyddio a storio deunyddiau ac offer glanhau, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  10. sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn gywir
  11. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn cyfrannu at amaethu tir a chnydau gan ddefnyddio ceffylau a theclynnau amaethyddol ac ar y tir sy'n cael eu tynnu gan geffylau
  3. sut i ddewis teclynnau ac offer sy'n cael eu tynnu gan geffylau ar gyfer ystod o waith amaethyddol
  4. sut i ddewis yr harnais cywir at y diben a fwriedir
  5. sut i ddewis ceffylau at y diben a fwriedir
  6. galluoedd tynnu pwysau a chario llwyth ceffylau unigol, a cheffylau niferus mewn perthynas ag ystod o declynnau a thasgau
  7. y dulliau o wirio a pharatoi teclynnau, harneisiau a cheffylau at yr ystod o ddefnyddiau a fwriedir, a sut i lanhau, gwneud gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn a storio eitemau rhwng defnydd
  8. sut i adnabod arwyddion o salwch, cloffni, diffyg ffitrwydd a straen yn y ceffyl cyn, yn ystod ac ar ôl gwaith
  9. sut i fonitro lles ceffylau tra'u bod yn gweithio
  10. sut i leihau straen yn y ceffyl gwaith
  11. sut dylid gwaredu mathau gwahanol o wastraff
  12. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq338

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; amaethyddiaeth; coedwigaeth; offer