Rheoli a pharatoi a gofalu am gerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau neu offer amaethyddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o baratoi a gofalu am gerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau neu offer amaethyddol i'w defnyddio, yn ogystal â gallu adnabod ystod o gerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau/offer a'u rhannau.
Mae'n cynnwys bod yn gyfrifol am lanhau cerbydau neu offer i'r safon briodol ar gyfer y defnydd y'u bwriadwyd, gan gynnal gwiriadau fel mater o drefn am draul neu niwed ac adnewyddu eitemau anaddas cyn eu defnyddio.
Mae'n cynnwys gallu paratoi a llwytho cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau neu offer amaethyddol i'w cludo i ddigwyddiadau, a'u glanhau, eu cynnal a'u storio rhwng defnydd.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- dewis cerbydau/offer sy'n briodol ar gyfer ystod o ddefnydd a fwriedir
- cynnal gwiriadau fel mater o drefn am draul neu niwed, ac adnewyddu eitemau anaddas neu drefnu iddynt gael eu hatgyweirio
- rheoli a pharatoi a gofalu am gerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau neu offer amaethyddol trwy sicrhau eu bod yn cael eu glanhau a'u paratoi i'r safon sy'n briodol ar gyfer y defnydd a fwriedir
- paratoi cerbydau/offer i'w cludo i ddigwyddiadau
- sicrhau bod cerbydau/offer yn cael eu glanhau, eu cynnal a'u cadw a'u storio ar ôl eu defnyddio
- sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn gywir
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn rheoli'r gwaith o baratoi cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau neu offer amaethyddol ar gyfer eu defnyddio
- ystod o gerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau/offer a'u rhannau, eu defnydd a'u swyddogaethau
- sut i asesu am draul neu niwed
- y gweithdrefnau ar gyfer adnewyddu eitemau anaddas neu drefnu eu hatgyweirio
- y safonau glendid a pharatoi sy'n ofynnol ar gyfer ystod o ddefnydd
- sut i baratoi cerbydau/offer ar gyfer eu cludo
- y gofynion ar gyfer cynnal a chadw cerbydau/offer
- sut y dylid gwaredu mathau gwahanol o wastraff
- y dulliau diogelu o godi a thrin
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir rheoli'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol