Rheoli’r gwaith o baratoi a gofalu am harnais ceffylau

URN: LANEq336
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o baratoi a gofalu am harnais ceffylau i'w ddefnyddio. Mae'n cynnwys sicrhau bod yr harneisiau'n cael eu glanhau i'r safon briodol ar gyfer eu defnydd, cynnal gwiriadau fel mater o drefn am draul neu niwed ac adnewyddu eitemau anaddas cyn eu defnyddio.

Mae'n cynnwys goruchwylio gwaith pobl eraill, a gwybod sut i atgyweirio harnais, fel y bo angen. Mae'n cynnwys gallu gosod harnais yn setiau o gydrannau ar gyfer ystod o ddefnydd a phacio harnais ar gyfer ei gludo.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. dewis yr harnais sy'n briodol ar gyfer ystod o ddefnydd, a gosod setiau o harneisiau o gydrannau
  3. cynnal gwiriadau fel mater o drefn am draul neu niwed, ac adnewyddu eitemau anaddas
  4. rheoli'r gwaith o baratoi a gofalu am harnais ceffylau trwy sicrhau ei fod yn cael ei lanhau a'i baratoi i'r safon briodol ar gyfer y defnydd
  5. pacio harnais ar gyfer ei gludo i ddigwyddiadau
  6. sicrhau bod yr harnais yn cael ei lanhau, ei gynnal a'i gadw a'i storio'n gywir ar ôl ei ddefnyddio
  7. sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn gywir
  8. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn rheoli'r gwaith o baratoi a gofalu am harnais ceffylau i'w ddefnyddio
  3. sut i ddewis a gosod harnais ar gyfer ystod o ddefnydd o gydrannau
  4. sut i asesu harnais am draul neu niwed
  5. y weithdrefn ar gyfer adnewyddu eitemau anaddas
  6. y safonau glendid a pharatoi sy'n ofynnol ar gyfer ystod o ddefnyddiau
  7. sut i baratoi harnais ar gyfer ei gludo i ddigwyddiadau
  8. y dulliau o lanhau, cynnal a chadw a storio harnais ar ôl ei ddefnyddio
  9. sut dylid gwaredu mathau gwahanol o wastraff
  10. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  11. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq336

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; gyrru; gofal