Ymdrin a chyflwyno meirch o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq333
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â thrin a chyflwyno meirch i gleientiaid, o dan oruchwyliaeth. Mae'n cynnwys pryfocio, cyplu a chyflwyno i gleientiaid, o dan oruchwyliaeth.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. trin meirch ar gyfer gweithdrefnau hylendid arferol o dan oruchwyliaeth
  3. cymryd y rhagofalon priodol i atal clefydau a drosglwyddir yn rhywiol
  4. cyflwyno'r pryfociwr i'r gaseg er mwyn sefydlu derbynioldeb ar gyfer cyplu
  5. cyflwyno'r march i'r gaseg ar gyfer cyplu, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  6. hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw broblemau yn trin y march neu gyplu
  7. cyflwyno'r march i gleientiaid i gael ei archwilio
  8. sicrhau bod lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal
  9. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. goblygiadau gorddefnyddio meirch
  3. y rhagofalon diogelwch wrth drin meirch
  4. seicoleg ac ymddygiad meirch
  5. y dulliau gwahanol o bryfocio
  6. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  7. yr offer i'w ddefnyddio ar feirch
  8. y rheoliadau'n ymwneud â swabio
  9. clefydau gwenerol a'u symptomau
  10. y codau ymarfer perthnasol ar gyfer atal a rheoli clefydau gwenerol a sut i hysbysu'r awdurdod perthnasol
  11. y cofnodion sydd eu hangen at ddibenion rheoli a deddfwriaethol
  12. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Trin pryfociwr sy’n ymddwyn yn dda a/neu farch ar gyfer cyplu i gael ei archwilio.


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq333

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; march; gofal