Cynnal dogfennau greoedd
URN: LANEq331
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal dogfennau greoedd.
Bydd angen eich bod yn gallu gweithio gydag uwch aelod o'r staff i gynnal cofnodion o'r fath, datrys unrhyw wahaniaethau o ran gwybodaeth a throsglwyddo gwybodaeth berthnasol i eraill, fel y bo'n briodol.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhoi gwybodaeth glir a chywir at ddibenion cofnodi
- cynnal dogfennau greoedd
- datrys unrhyw wahaniaethau mewn gwybodaeth a hysbysu'r person dynodedig ynghylch y rhain
- cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol
- datgelu gwybodaeth briodol i'r cleient, yn unol ag arfer da presennol y diwydiant.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben dogfennau greoedd a pham y mae cywirdeb yn bwysig
- y mathau o gofnodion sydd eu hangen
- y polisïau ar ddatgelu gwybodaeth
- y feddalwedd gyfrifiadurol berthnasol i gynorthwyo'r gwaith o gadw dogfennau greoedd
- gofynion cofrestru cesig, meirch ac ebolion
- terminoleg contract greoedd yn cynnwys telerau, ffioedd, dulliau talu a ffurflenni enwebu
- cofnodion brechu, swabio a chofnodion gofal iechyd arferol eraill
- y ddeddfwriaeth yn ymwneud â dogfennau greoedd.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mathau o gofnodion:
- milfeddygol
- gof
- cael gwared â llyngyr
- pryfocio a chyplu
- caeau bychain
- dyddiaduron
- pasbortau
- microsglodion
- siartiau
- llyfrau pryfocio
- dyddiadau bwrw ebol
- cofrestriadau
- ffurflenni enwebu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq331
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; gre; gofal