Gofalu am y gaseg a’r ebol
URN: LANEq329
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys gofalu am y gaseg a'r ebol. Dylech allu monitro iechyd yr ebol newydd-anedig a'r gaseg, nodi unrhyw broblemau iechyd, cymryd y camau priodol mewn ymateb i broblemau iechyd a gweithredu gofal iechyd fel mater o drefn.
Dylech allu cynnal dulliau priodol o ddiddyfnu, gwirio iechyd y ceffylau ar ôl diddyfnu a gwirio iechyd stoc ifanc.
Dylech fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- gofalu am a chynnal iechyd y gaseg a'r ebol
- nodi unrhyw broblemau iechyd gyda'r gaseg a'r ebol a chymryd y camau priodol
- sefydlu a gweithredu trefn ymdrin â'r gaseg a'r ebol o ddydd i ddydd
- cynllunio a gweithredu gofal iechyd fel mater o drefn ar gyfer y gaseg a'r ebol, yn cynnwys; rheoli parasitiaid, brechu a gofal y traed
- cyflwyno'r gaseg a'r ebol i bori, yn unol ag arfer da presennol y diwydiant
- sefydlu a gweithredu dulliau priodol o ddiddyfnu'r ebol
- monitro a chynnal iechyd a lles y gaseg a'r ebol ar ôl ei ddiddyfnu
- nodi pryd i gael cyngor a chymorth arbenigol
- gweithredu rhaglenni maethu a gofalu am ebolion amddifad lle y bo'n briodol
- cynnal lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i adnabod, trin a chymryd y camau priodol mewn ymateb i broblemau iechyd yn ymwneud â'r gaseg a'r ebol
- pwysigrwydd colostrwm a sut i sicrhau bod yr ebol wedi cael digon ohono
- gweithdrefnau rheoli ar gyfer aelodau wedi eu hanffurfio
- llawdriniaeth caslick
- gweithdrefnau maethu a sut i ofalu am ebol amddifad
- amseriad a dulliau diddyfnu ar gyfer grwpiau, unigolion, ebolion wedi eu llocio a rhai mewn cae bychan
- y problemau a allai effeithio ar y gaseg a'r ebol ar ôl diddyfnu
- problemau datblygiadol mewn ebolion ifanc sy'n tyfu
- pryd a sut i gael cyngor a chymorth gan arbenigwyr
- sut i gadw cofnodion priodol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth ofalu am y gaseg a'r ebol ar ôl bwrw ebol, a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq329
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; caseg; ebol