Gofalu am y gaseg a’r ebol wrth fwrw ebol

URN: LANEq328
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys gofalu am y gaseg a'r ebol wrth fwrw ebol.  Mae hefyd yn cynnwys gofalu am y gaseg cyn bwrw ebol a gofalu am y gaseg a'r ebol yn syth ar ôl bwrw ebol.

Bydd angen eich bod yn gallu paratoi cyfleusterau ac offer addas, gofalu am y gaseg a'r ebol yr holl amser, ymateb i arwyddion bod y gaseg yn barod i fwrw ebol a chael cyngor a chymorth proffesiynol pan fydd hyn yn angenrheidiol. Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. paratoi cyfleusterau ac offer addas ar gyfer caseg sy'n bwrw ebol
  3. gofalu am y gaseg cyn iddi fwrw ebol, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  4. monitro'r gaseg ac ymateb i arwyddion ei bod ar fin bwrw ebol
  5. gofalu am y gaseg wrth iddi fwrw ebol a chael cyngor proffesiynol ar unwaith os ydych yn amau genedigaeth anarferol neu anodd
  6. cymryd camau priodol pan nodir arwyddion anarferol yn ymwneud ag iechyd ac ymddygiad
  7. gwirio'r brych ar ôl bwrw ebol
  8. gofalu am y gaseg a'r ebol am 24 awr ar ôl bwrw ebol
  9. cadw lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch
  10. sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn gywir
  11. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. y mathau o gyfleusterau ac offer sy'n ofynnol i ofalu am y gaseg a'r ebol wrth fwrw ebol
  3. y gofynion ar gyfer bwrw ebol yn y stabl a'r cae
  4. arwyddion bod caseg ar fin bwrw ebol a'r camau cywir i'w cymryd
  5. cyfnodau gwahanol bwrw ebol
  6. cyflwyno'n anarferol a phryd i gael cymorth
  7. arwyddion anarferol yn ymwneud ag iechyd ac ymddygiad a'r camau priodol i'w cymryd, yn cynnwys hysbysu ynghylch yr arwyddion a chael cymorth
  8. y rhesymau dros wirio'r brych ar ôl bwrw ebol a'r problemau yn ymwneud â dargadw
  9. y defnydd o deledu cylch cyfyng a larymau caseg
  10. y gweithdrefnau yn syth ar ôl esgor
  11. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth fwrw ebol, a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  12. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Cyfleusterau ac offer:

  • stablu
  • deunydd gwely
  • golau
  • ffôn a rhifau ffôn perthnasol
  • coler pen
  • carthenni
  • colostrwm
  • pecyn cymorth cyntaf

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq328

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; caseg; ebol