Arwain taith geffylau
URN: LANEq327
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys arwain taith geffylau, yn cynnwys dilyn llwybr y daith, monitro cleientiaid, a nodi ac ymateb i unrhyw sefyllfaoedd peryglus. Mae'r safon hon yn berthnasol i deithiau o bob hyd.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- arwain taith geffylau gan ddilyn y llwybr cywir, o fewn y raddfa amser gytûn
- monitro cleientiaid ac amodau, yn unol â gweithdrefnau cytûn
- nodi sefyllfaoedd peryglus a chymryd camau unioni priodol, o fewn terfynau eich awdurdod
- rhoi gwybodaeth i gleientiaid ar adegau a chyfnodau priodol, yn cynnwys sefyllfaoedd peryglus (i'r marchog a'r ceffyl), mannau o ddiddordeb lleol a chynnydd y daith
- cadw at y gweithdrefnau cytûn mewn argyfwng
- dilyn y gweithdrefnau sydd eisoes wedi eu nodi yn cynnwys rhannau perthnasol o Reolau'r Ffordd Fawr a'r Côd Cefn Gwlad/Mynediad, bob amser
- trafod y daith gyda'r cleientiaid a chael adborth
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- yr amodau diogel ar gyfer merlota
- defnyddio mapiau, cwmpawd a GPS wrth arwain taith geffylau
- sut mae'r tywydd yn effeithio ar dirweddau gwahanol
- y rhesymau dros wirio aelodau'r daith yn barhaus
- y gweithdrefnau brys priodol os bydd damwain, digwyddiad neu salwch, ar gyfer y ceffyl a'r marchog
- pryd y mae'n angenrheidiol cael cynorthwywyr ar y daith
- eich cyfrifoldeb yn unol ag adrannau perthnasol o Reolau'r Ffordd Fawr a'r Côd Cefn Gwlad/Mynediad
- y mathau o beryglon i geffylau a marchogion a allai fod yn bresennol wrth ferlota
- sut i adnabod trallod cleient
- sut i adnabod problemau gyda cheffylau
- y gweithdrefnau cytûn yn ymwneud â mynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffyl
- cysylltiadau cwsmeriaid a phwysigrwydd cyfathrebu da cyn, yn ystod ac ar ôl y daith
- sut i ymdrin ag unrhyw broblemau a chyfyngiadau awdurdod
- sut y gofelir gam geffylau ar ôl taith
- pam y mae'n bwysig sicrhau yr hysbysir ynghylch pob digwyddiad
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Monitro'r amodau canlynol:
- tywydd
- tirwedd
- iechyd cleientiaid
- agwedd cleientiaid
- lles ceffylau
Cael adborth gan gleientiaid:
- bodlonrwydd cwsmeriaid
- llwybr
- hyd
- amseru
Arwain teithiau o hyd amrywiol (hyd at un diwrnod).
Ymdrin â'r canlynol:
- cwynion
- sylwadau
- argymhellion
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq327
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; taith; arweinydd