Paratoi i arwain taith geffylau

URN: LANEq326
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi i arwain taith geffylau.

Dylech allu gwirio bod digon o geffylau a harneisiau ar gael, asesu addasrwydd y cleientiaid ar gyfer y gweithgaredd, dyrannu cleientiaid i geffylau ac ymateb i unrhyw broblemau.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. paratoi i arwain taith geffylau trwy gadarnhau bod digon o geffylau ar gael gyda harneisiau addas
  3. asesu addasrwydd cleientiaid ar gyfer y daith geffylau
  4. cynnal briff llawn o'r gweithdrefnau a chadarnhau bod y cleientiaid wedi deall y rhain, yn cynnwys rhagofalon ac offer diogelwch, rheolaeth sylfaenol dros y ceffyl, rheolau'n ymwneud â'u safle yn y llinell, llwybr y daith a gweithdrefnau brys
  5. gwirio bod cleientiaid yn gwisgo offer diogelwch, cyn arwain taith geffylau, ac esbonio y dylid gwisgo hwn bob amser.
  6. dyrannu ceffyl addas i'r cleientiaid, rhoi cymorth wrth fynd ar gefn y ceffyl ac addasu harneisiau ar gyfer y marchog
  7. cadarnhau bod yr holl offer brys priodol ar gael
  8. ymateb yn briodol i unrhyw broblemau sy'n codi, o fewn terfynau eich awdurdod
  9. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. y rhesymau dros friffio cleientiaid a gwirio eu dealltwriaeth
  3. gweithdrefnau eich sefydliad yn ymwneud â gweithgareddau merlota
  4. pam y mae'n bwysig sicrhau bod hetiau diogelwch wedi eu gosod yn gywir a'u bod yn cael eu gwisgo bob amser
  5. y rhesymau dros ddweud wrth rywun mewn awdurdod beth yw llwybr y daith
  6. sut i sefydlu a chynnal perthynas â chleientiaid
  7. sut i asesu addasrwydd cleientiaid ar gyfer y daith geffylau
  8. y rhesymau dros ddyrannu cleientiaid i geffylau penodol
  9. sut i ymateb i broblemau a therfynau eich awdurdod
  10. y gofynion yswiriant ar gyfer gweithgareddau merlota
  11. yr offer brys sy'n ofynnol ar gyfer y daith, yn cynnwys pecyn cymorth cyntaf, harneisiau sbâr ac offer cyfathrebu
  12. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Gweithio gyda'r cleientiaid canlynol:

  • oedolion
  • plant
  • marchogion profiadol
  • marchogion amhrofiadol

Asesu'r agweddau canlynol ar addasrwydd cleientiaid:

  • gwisg
  • oed
  • pwysau
  • profiad
  • anghenion penodol eraill e.e. cyflyrau meddygol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq326

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; taith; arweinydd