Marchogaeth ceffylau â lefelau ffitrwydd gwahanol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys marchogaeth ceffylau â lefelau ffitrwydd gwahanol er mwyn eu hymarfer. Bydd hyn yn cynnwys marchogaeth ceffylau â rhaglenni ymarfer gwahanol yn effeithiol, mewn ffordd reoledig, a monitro cynnydd y ceffyl.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- dewis a gosod harneisiau i fodloni gofynion unigol
- marchogaeth ceffylau er mwyn eu hymarfer, mewn ffordd reoledig, sy'n briodol i'r ardal waith a'r amodau
- ystyried lefelau ffitrwydd gwahanol y ceffylau
- ymarfer ceffylau yn unol â'r rhaglen ymarfer
- monitro cynnydd ceffylau yn erbyn y rhaglen ymarfer a hysbysu'r person priodol
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
- dilyn Rheolau'r Ffordd Fawr a'r gweithdrefnau ar gyfer marchogaeth ar y ffordd, gan addasu osgo a chyflymder yn unol â'r amodau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- ymddygiad ceffylau yn ystod cyfnodau gwahanol hyfforddiant a lefelau ffitrwydd
- y rhesymau dros fonitro perfformiad y ceffyl
- effeithiau ymarfer ar y ceffyl
- pwysigrwydd mabwysiadu'r safle marchogaeth priodol ar gyfer y math o ymarfer
- adwaith ceffylau o dan amgylchiadau ac amodau gwahanol
- y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth farchogaeth ar y ffordd
- sut i farchogaeth y ceffyl ar y ffordd yn ddiogel, yn enwedig wrth gyffyrdd
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Marchogaeth mewn ffordd reoledig yn yr amodau canlynol:
- cyflwr arwyneb
- presenoldeb ceffylau eraill
- presenoldeb pobl eraill
- tywydd gwahanol (yn cynnwys tywydd gwael)
Marchogaeth yn y sefyllfaoedd hyn:
- yn unigol
- mewn grwpiau
- cerdded, trotian a hanner carlamu
- mewn mannau agored
- ar y ffordd
Marchogaeth o leiaf dau o'r mathau canlynol o geffylau:
- ffit
- hanner ffit
- ddim yn ffit
Marchogaeth mwy nag un ceffyl i'w hymarfer ar gyfer disgyblaeth benodol; dylai'r ceffylau fod â lefelau ffitrwydd amrywiol.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau:
- arwyneb y ffordd
- tywydd
- marchogion eraill
- defnyddwyr eraill y ffordd