Ymarfer a gwella perfformiad ceffylau trwy eu harwain neu eu rhoi ar ffrwyn hir
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymarfer a gwella perfformiad ceffylau trwy arwain neu eu rhoi ar ffrwyn hir. Dylech allu dewis a gosod harneisiau, cadw rheolaeth dros y ceffyl, pennu a chytuno ar anghenion ymarfer y ceffyl a chynnal ymarfer. Dylech allu cysylltu a thrafod perfformiad y ceffyl gyda'r person priodol.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- dewis a gosod harneisiau addas yn unol â'r gweithdrefnau cyfredol
- cadw rheolaeth dros y ceffyl bob amser sy'n briodol i'r amodau
- pennu'r anghenion ymarfer a hyfforddi er mwyn gwella perfformiad y ceffyl a chytuno arnynt gyda'r person priodol
- ymarfer a gwella perfformiad y ceffyl trwy arwain neu ei roi ar ffrwyn hir
- gwerthuso a hysbysu'r person priodol ynghylch yr effeithiau y mae'r gweithgareddau ymarfer yn eu cael ar berfformiad y ceffyl
- nodi pan fydd ceffyl wedi cael digon o ymarfer ar gyfer ei anghenion
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y mathau a'r defnydd o gymhorthion hyfforddi wrth arwain a rhoi ar ffrwyn hir
- defnyddio arwain a rhoi ar ffrwyn hir mewn rhaglenni ymarfer a hyfforddiant i wella perfformiad y ceffyl
- sut y gellir gweithio ceffylau ar y ddaear ar gyfer disgyblaethau eraill
- â phwy y mae'n rhaid i chi gysylltu, yn cynnwys y perchennog, y marchog, yr hyfforddwr a'r goruchwylydd
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Ymarfer y mathau canlynol o geffylau:
- ffit
- ddim yn ffit
- perfformiad
- hamdden
- gweithio
Ymarfer ceffylau gan ddefnyddio'r dulliau canlynol:
- cerdded
- trotian
- hanner carlamu wrth arwain
Ymarfer ceffylau yn briodol i’r amodau canlynol:
- arwyneb
- y tywydd
- presenoldeb ceffylau eraill
Ymarfer a gwella ceffylau ar gyfer disgyblaeth benodol. Dylai’r ceffylau fod ar lefelau hyfforddiant amrywiol.