Dylunio a gweithredu rhaglen ymarfer ddyddiol ar gyfer ceffylau
URN: LANEq323
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio a gweithredu rhaglen ymarfer ddyddiol ar gyfer ceffylau.
Dylech allu pennu cyflwr y ceffyl, adnabod ei anghenion ymarfer, cynllunio a chynnal y rhaglen waith a gwerthuso'r canlyniadau.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- asesu cyflwr corfforol a seicolegol presennol y ceffyl a nodi'r anghenion ymarfer
- dylunio, cynllunio a chytuno ar y rhaglen ymarfer ddyddiol ar gyfer y ceffylau, gyda'r person priodol
- creu rhaglen ymarfer ddyddiol sydd yn bodloni gofynion y gweithgaredd yn llawn
- gweithredu rhaglen ymarfer ddyddiol, yn cynnwys gwaith araf a gwaith datblygiad, gan ddefnyddio dulliau a chymhorthion priodol
- gwerthuso'r effeithiau y mae'r gweithgareddau ymarfer yn eu cael ar y ceffyl
- cofnodi a hysbysu'r person priodol ynghylch gwybodaeth yn ymwneud â pherfformiad y ceffyl
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- effeithiau corfforol a seicolegol ymarfer a hyfforddiant ar y ceffyl
- y rhesymau dros ddylunio a gweithredu rhaglenni ymarfer dyddiol ar gyfer ceffylau unigol
- sut i gyflwyno ceffyl nad yw'n ffit i raglen ymarfer ddyddiol
- y technegau ffitrwydd ychwanegol e.e. cerddwyr ceffylau a nofio
- y broses o baratoi ceffyl am gyfnod o orffwys neu dorri i mewn
- sut i asesu ffitrwydd a chyflwr ceffylau
- effeithiau natur, oed a phrofiad ar ymddygiad ceffylau
- sut i adnabod anghenion ymarfer, yn cynnwys graddfeydd amser a chanlyniadau
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.
Cwmpas/ystod
Cyfrannu at ddylunio a gweithredu rhaglenni ymarfer dyddiol ar gyfer tri cheffyl â lefelau ffitrwydd amrywiol, ar gyfer disgyblaeth benodol
Gweithgaredd ymarfer:
- gwaith araf
- gwaith datblygu
Pennu
- cyflwr corfforol y ceffyl
- cyflwr seicolegol y ceffyl
Dulliau:
- cenglu
- marchogaeth
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq323
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; ymarfer