Marchogaeth ac arwain ceffylau er mwyn eu hymarfer

URN: LANEq322
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys marchogaeth ac arwain ceffylau er mwyn eu hymarfer. Dylech allu marchogaeth ac arwain detholiad o geffylau, cadw rheolaeth dros geffylau ac adnabod ac ymdrin ag amodau gwahanol.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. dewis a gosod harneisiau ac offer addas
  3. marchogaeth ac arwain detholiad o geffylau yn unol â gofynion ymarfer priodol
  4. cadw rheolaeth dros geffylau sy'n cael eu marchogaeth a'u harwain tra'n mynd ar eu cefn, a thrwy gydol yr ymarfer, mewn ffordd sy'n briodol i'r amodau
  5. dilyn y gweithdrefnau a osodir, a Rheolau'r Ffordd Fawr, ar gyfer marchogaeth ar y ffordd  bob amser
  6.  ymdrin ag amodau gwahanol a chymryd camau priodol, yn unol ag arfer da cyfredol
  7. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. addasrwydd ceffylau i farchogaeth gyda'i gilydd er mwyn eu hymarfer
  3.  y rhesymau dros ddewis ceffylau i gael eu marchogaeth a'u harwain
  4.  y mathau o amodau a sut y gall y rhain effeithio ar geffylau
  5. dewis harneisiau ac offer i'w defnyddio wrth farchogaeth ac arwain ceffylau
  6. y dulliau hyfforddi gwahanol
  7. y disgyblaethau gwahanol ar gyfer ceffylau a'u hanghenion
  8. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  9. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â Rheolau'r Ffordd Fawr.

Cwmpas/ystod

​Marchogaeth un ceffyl ac arwain un arall yn cerdded, trotian a hanner carlamu er mwyn eu hymarfer

 Marchogaeth ceffylau yn unol â:

  • eu haddasrwydd i farchogaeth gyda'i gilydd
  • gofynion ymarfer
  • marchogaeth ar y ffordd
  • marchogaeth mewn man agored

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Amodau:

  • arwyneb
  • y tywydd
  • gwelededd
  • marchogion eraill
  • cyflwr y ffordd
  • defnyddwyr eraill y ffordd
  • presenoldeb pobl eraill
  • presenoldeb ceffylau eraill
  • presenoldeb anifeiliaid eraill

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq322

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; marchogaeth; ymarfer