Neidio gyda cheffylau wedi eu hyfforddi er mwyn cynnal eu lefel hyfforddiant
URN: LANEq321
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â neidio gyda cheffylau wedi eu hyfforddi er mwyn cynnal eu lefel hyfforddiant. Dylech allu osod harneisiau, cynnal safle marchogaeth addas a chydbwysedd wrth neidio ffensys hyd at 90cm (3 troedfedd). Dylech allu monitro ac adrodd ar gynnydd y ceffylau, a gwneud argymhellion ar gyfer gwella.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- dewis ac addasu harneisiau er mwyn bodloni gofynion unigol
- neidio gyda cheffylau wedi eu hyfforddi er mwyn cynnal eu lefel hyfforddiant
- mabwysiadu a chynnal y safle neidio priodol
- cadw cydbwysedd tra'n neidio ffensys
- cymryd llwybr priodol rhwng ffensys
- addasu cyflymder ac osgo i gyd-fynd â'r dirwedd, y math o naid a'r ardal waith
- sefydlu a chynnal hanner carlam o ansawdd sy'n caniatáu i'r ceffyl neidio'n hawdd
- cymryd camau priodol os yw'r ceffyl yn gwrthod neidio neu'n cyffroi gormod
- monitro cynnydd y ceffyl yn erbyn gofynion hyfforddiant a hysbysu'r person priodol
- gwneud argymhellion yn ymwneud ag unrhyw feysydd ar gyfer gwelliant
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y camau i'w cymryd os yw'r ceffyl wedi ei hyfforddi'n gwrthod neidio neu'n cyffroi gormod
- effeithiau cyflwr y cae a'r dirwedd ar y ceffyl
- sut i gerdded cwrs a'r rhesymau dros wneud hynny
- dyluniad y cwrs a safle'r ffensys
- y pellterau rhwng polion, gridiau a ffensys cyfuniad
- y mathau o ffensys
- pwysigrwydd mabwysiadu'r safle marchogaeth cywir ar gyfer neidio dros neidiau sioe a ffensys traws gwlad
- sut i asesu'r ceffyl a gwneud unrhyw argymhellion ar gyfer gwelliant i'r person priodol
- sut i adnabod problemau o ran agwedd ceffyl tuag at neidio a'r camau priodol i'w cymryd
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Neidio yn yr ardaloedd gwaith canlynol:
- man caeëdig
- man agored
Neidio dros y mathau canlynol o ffens:
- sefydlog
- ansefydlog
Marchogaeth ceffylau:
- ar eich pen eich hun
- gyda chwmni
Dewis ac addasu'r harneisiau canlynol:
- cyfrwy neidio
- ffrwyn enfaog
- harneisiau eraill fel y bo angen
Marchogaeth mwy nag un ceffyl dros:
- bolion
- cwrs neidio sioe ar 3 troedfedd (0.9m)
- amrywiaeth o ffensys traws gwlad rhwng 2 droedfedd 6 modfedd a 3 troedfedd (0.8m a 0.9m) ar dirwedd amrywiol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq321
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; hyfforddiant; ymarfer