Cyfrannu at hyfforddiant ceffylau o’r ddaear
URN: LANEq320
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at hyfforddiant ceffylau o'r ddaear. Mae'n cynnwys addysgu'r ceffyl ifanc i dderbyn disgyblaeth, y ffrwyn, y cyfrwy a'r marchog.
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arwain, rhoi ar ffrwyn hir neu arwain y ceffyl a thywys y ceffyl wysg ei gefn mewn ardaloedd caeëdig ac mewn ardaloedd agored. Dylech allu dewis a gosod harneisiau addas, hyfforddi'r ceffyl a chyflwyno'r ceffyl i'r marchog.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- dewis a gosod harneisiau addas ar gyfer hyfforddi'r ceffyl o'r ddaear
- sefydlu a chytuno ar dargedau a monitro cynnydd yr hyfforddiant
- cyfrannu at hyfforddiant y ceffyl, yn y lleoliad gofynnol, yn unol â'r anghenion hyfforddiant cytûn
- monitro cynnydd a lles y ceffyl drwy'r amser, a hysbysu ynghylch a diwygio'r rhaglen hyfforddiant fel y bo'n briodol
- paratoi'r ardal ar gyfer tywys y ceffyl wysg ei gefn
- dewis a gosod harneisiau addas ar gyfer tywys y ceffyl wysg ei gefn
- cyflwyno'r ceffyl i'r marchog, yn unol ag arfer da cyfredol
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y mathau o offer arbenigol a sut i'w defnyddio
- effeithiau arwain a rhoi ar ffrwyn hir ar fathau amrywiol o geffylau
- sut i gynnwys arwain a rhoi ar ffrwyn hir mewn rhaglen hyfforddiant
- y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â hyfforddi ceffylau ifanc o'r ddaear a cheffylau â phroblemau ymddygiadol penodol
- y dulliau o gyflwyno'r ceffyl i'r marchog
- pryd a sut i ddiwygio rhaglen hyfforddiant
- y mathau o gofnodion sy'n ofynnol a phwysigrwydd eu cynnal
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Lleoliadau:
- ardal gaeëdig
- ardal agored
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq320
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; hyfforddiant; ymarfer