Cynnal gweithdrefnau cae rasio

URN: LANEq319
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal gweithdrefnau cae rasio wrth gyrraedd y cae rasio a chyn ac ar ôl y ras. Dylech allu cynnal y gweithdrefnau cyn rasio, cwblhau dogfennau'r datganiad, cydymffurfio â gweithdrefnau diogelwch a chysylltu â phersonél eraill. Bydd angen i chi hefyd allu rhoi'r ceffyl a'r offer priodol i'r joci a chwblhau'r gweithdrefnau ar ôl rasio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cynnal y gweithdrefnau cyn rasio yn gywir
  2. cwblhau dogfennau'r datganiad yn gywir a'u rhoi i'r person priodol
  3. cydymffurfio â gofynion diogelwch y cae rasio bob amser
  4. creu dogfennau perthnasol ar gyfer swyddogion y cae rasio
  5. cynnal y cyswllt angenrheidiol gyda phersonél perthnasol bob amser
  6. darparu'r dillad a'r offer sydd yn ofynnol gan y cae rasio a'r joci, yn unol â gofynion y ras
  7. cwblhau'r gweithdrefnau ar ôl rasio yn gywir
  8. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gweithdrefnau cyn rasio, yn cynnwys; datganiadau, pasys stabl a phasbortau, a gweithdrefnau ar gyfer cyfrwyo
  2. rheolau perthnasol rasio a sut y cânt eu cymhwyso
  3. gweithdrefnau a gofynion diogelwch y cae rasio
  4. y personél y bydd angen i chi gysylltu â nhw, yn cynnwys; hyfforddwyr, jocis, swyddogion a pherchnogion
  5. y dillad a'r offer sy'n ofynnol gan y cae rasio a'r joci
  6. y camau i'w cymryd os bydd ymchwiliad
  7. y rhesymau pam y mae'n rhaid pwyso'r harneisiau allan
  8. y gweithdrefnau ar ôl y ras, yn cynnwys; ôl-ofal y ceffyl, casglu lliwiau, rasys gwerthu a rasys hawlio
  9. rheolau atal cyffuriau a'r arferion sy'n berthnasol iddynt
  10. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  11. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Darparu'r dillad a'r offer canlynol:

  • cyfrwy
  • harneisiau
  • lliwiau

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq319

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; ceffylau rasio; gweithdrefnau