Cyfrannu at werthuso ac addasu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau rasio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at werthuso ac addasu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau rasio. Dylech allu gwneud y gwaith hwn yn ystod pob cyfnod o ffitrwydd o waith ffordd i waith cyflym, a chyda cheffylau â lefelau ffitrwydd amrywiol, hyd at ac yn cynnwys ffitrwydd rasio.
Dylech allu gwerthuso'r gweithgareddau hyfforddiant, cael adborth am berfformiad y ceffyl a dadansoddi effeithiolrwydd y rhaglen hyfforddiant.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrannu at werthuso rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau rasio, yn rheolaidd, yn unol ag arfer da ac amcanion cyfredol
- cael adborth gan bersonél perthnasol ar bob agwedd yn ymwneud â rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau rasio
- dadansoddi effeithiau rhaglenni hyfforddiant ar y ceffylau rasio
- cofnodi canlyniadau rhaglenni hyfforddiant ceffylau rasio
- gwerthuso a chofnodi addasrwydd y cyfleusterau, yr offer a'r staff
- trafod gwerthuso rhaglenni hyfforddiant y ceffyl rasio gyda'r personél perthnasol
- adolygu ac addasu amcanion rhaglenni hyfforddiant y ceffyl rasio, lle bo angen
- cyfathrebu'r addasiadau i raglenni hyfforddiant y ceffyl rasio i'r personél perthnasol
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pryd a pham y dylid adolygu amcanion rhaglenni hyfforddiant y ceffyl rasio
- sut i gael adborth yn ymwneud â chynnydd a chan bwy
- sut i werthuso'r adborth yn erbyn amcanion rhaglenni hyfforddiant y ceffyl rasio
- effeithiau seicolegol a chorfforol hyfforddiant ar y ceffylau rasio
- y rhesymau dros brofi gwaed a phwysigrwydd cysylltu â'r llawfeddyg milfeddygol
- arwyddocâd adnabod y pwysau corff gorau posibl a'r defnydd o'r pontydd pwyso
- effaith natur, oed a phrofiad ar ymddygiad ceffylau rasio
- pam y mae'n bwysig cytuno ar addasiadau i'r rhaglen hyfforddiant gyda'r personél perthnasol
- y cymhorthion a'r dulliau hyfforddiant a ddefnyddir
- y cyfleusterau sy'n ofynnol, yn cynnwys porfeydd carlamu, ardaloedd carlamu pob tywydd, clwydi a ffensys
- dulliau hyfforddiant amgen yn cynnwys; cerddwyr ceffylau a phyllau nofio
- sut bydd rhaglen fwydo'n newid ar adegau ffitrwydd amrywiol
- pwysigrwydd pedoli ceffylau rasio yn rheolaidd ac yn gywir
- rheoliadau Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain a rheoliadau eraill yn ymwneud â brechiadau fel mater o drefn
- sut i adnabod ac asesu effeithiau problemau corfforol ac ymddygiadol ar geffylau rasio a'u hagwedd at waith, a diwygio'r rhaglenni hyfforddiant yn unol â hynny
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Gwerthuso ac addasu rhaglen hyfforddiant ar gyfer ceffylau ar lefelau ffitrwydd amrywiol hyd at ac yn cynnwys ffitrwydd rasio, a chydag amcanion hyfforddiant gwahanol.
Gwerthuso'r gweithgareddau canlynol:
- gwaith ffordd
- gwaith cyflym
- gwaith ffitrwydd fel mater o drefn
- hyfforddi