Cyfrannu at ddylunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau rasio

URN: LANEq317
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddylunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau rasio. Dylech allu gwneud y gwaith hwn gyda cheffylau â lefelau amrywiol o ffitrwydd, hyd at ac yn cynnwys ffitrwydd rasio, a chydag amcanion hyfforddiant gwahanol. Dylai'r amcanion gynnwys naill ai datblygiad corfforol neu seicolegol.

Dylech allu adnabod lefel ffitrwydd presennol y ceffyl, man gorffen gofynnol y rhaglen, a dylunio a gweithredu rhaglen hyfforddiant i gyrraedd y man gorffen.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cyfrannu at ddylunio rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau rasio i fodloni'r safonau perfformiad gofynnol
  2. pennu cyflwr a pherfformiad presennol ceffylau rasio gan ddefnyddio dulliau dilys a dibynadwy
  3. dewis gweithgareddau hyfforddiant sydd â'r potensial mwyaf ar gyfer datblygiad llwyddiannus ceffylau rasio
  4. briffio'r personél perthnasol ar agweddau priodol y rhaglenni hyfforddiant a'r gweithgareddau
  5. cynyddu'r defnydd o'r adnoddau sydd ar gael tra'n gweithredu'r rhaglenni hyfforddiant
  6. amrywio'r rhaglenni hyfforddiant, fel y bo angen, i gyd-fynd â'r ceffylau rasio, tra'n parhau i gyflawni'r amcanion
  7. monitro'r rhaglenni hyfforddiant
  8. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i osod amcanion wrth ddylunio rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau rasio
  2. sut i sefydlu cofnodion perfformiad ar gyfer ceffylau rasio unigol
  3. sut i asesu cyflwr ceffylau rasio, yn cynnwys y cyflwr corfforol a seicolegol, a ffitrwydd
  4. sut i adnabod ac asesu effeithiau problemau corfforol ac ymddygiadol ar geffyl rasio a'i agwedd tuag at waith
  5. y rhesymau dros brofi gwaed a phwysigrwydd cyswllt â'r llawfeddyg milfeddygol
  6. arwyddocâd adnabod y pwysau corff gorau posibl a'r defnydd o'r pontydd pwyso
  7. dulliau hyfforddiant amgen, yn cynnwys; cerddwyr ceffylau a phyllau nofio
  8. sut i ymgorffori gwaith ffordd, gwaith cyflym, gwaith ffitrwydd fel mater o drefn a hyfforddi i'r rhaglenni hyfforddiant
  9. effaith natur, oed a phrofiad ar ymddygiad ceffylau rasio
  10. effeithiau ymarfer corff ar ddatblygiad corfforol a seicolegol ceffylau rasio
  11. sut i fonitro cynnydd ceffylau rasio
  12. pwysigrwydd cyflymder, pellter, goleddf ac arwynebedd amrywiol mewn rhaglenni hyfforddiant
  13. sut i ddefnyddio adnoddau wrth weithredu rhaglenni hyfforddiant yn cynnwys; amser, cyfleusterau, cyllid, llafur
  14. effeithiau cyflwr cae ac arwynebedd ar y ceffylau rasio
  15. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Dylunio a gweithredu rhaglen hyfforddiant ar gyfer ceffylau â lefelau ffitrwydd amrywiol, hyd at ac yn cynnwys ffitrwydd rasio, a chydag amcanion hyfforddiant gwahanol

Hyfforddi yn unol â'r amcanion canlynol:

  • datblygiad corfforol
  • datblygiad seicolegol

Hyfforddi gan ddefnyddio'r gweithgareddau canlynol:

  • gwaith ffordd
  • gwaith cyflym
  • gwaith ffitrwydd fel mater o drefn
  • hyfforddi

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq317

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; ceffylau rasio; hyfforddiant