Marchogaeth ceffylau wedi eu hyfforddi er mwyn cynnal eu hyfforddiant

URN: LANEq316
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys marchogaeth ceffylau wedi eu hyfforddi er mwyn cynnal eu hyfforddiant. Dylech allu gwneud ymarferion a symudiadau sy'n briodol i lefel ffitrwydd a hyfforddiant y ceffylau, ac adrodd ar y cynnydd.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. dewis ac addasu harneisiau i fodloni gofynion unigol
  3. mabwysiadu'r safleoedd marchogaeth priodol er mwyn cadw rheolaeth dros y ceffyl a chydbwysedd
  4. marchogaeth ceffylau wedi eu hyfforddi mewn ffordd reoledig sy'n briodol i'r ardal waith a'r amodau
  5. marchogaeth gyda chynllun clir gan ddangos ymwybyddiaeth o Raddfa(Graddfeydd) yr Hyfforddiant
  6. cynnal symudiadau yn ddiogel yn unol â'r gofynion hyfforddi
  7. monitro a chynnal cynnydd y ceffyl yn erbyn y gofynion hyfforddi, a hysbysu'r person priodol
  8. gwneud argymhellion i'r person priodol am ofynion hyfforddi'r ceffyl i'r dyfodol
  9. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. effeithiau hyfforddi'r ceffyl ar y meddwl a'r cyhyrau
  3. ymddygiad ceffylau yn ystod cyfnodau gwahanol o'u hyfforddiant a'u ffitrwydd
  4. y rhesymau dros fonitro a chynnal perfformiad
  5. y defnydd o symudiadau a chymhorthion priodol yr hyfforddiant
  6. pwysigrwydd mabwysiadu'r safle marchogaeth cywir ar gyfer hyfforddi ceffylau
  7. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  8. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Marchogaeth dau geffyl yn ystod cyfnodau gwahanol hyfforddiant

Marchogaeth yn yr ardaloedd gwaith canlynol:

  • man caeëdig
  • man agored
  • ar ffyrdd/priffyrdd cyhoeddus

Marchogaeth yn yr amodau canlynol:

  • yn unigol
  • mewn grwpiau

Gwneud y canlynol:

  • cerdded
  • trotian – codi ac eistedd
  • hanner carlamu
  • camau hwy
  • ffigurau hyfforddi
  • gwaith ochrol sylfaenol – plygu coes, troi o amgylch wrth y pen blaen
  • newidiadau
  • gwaith heb wartholion gyda'r tri symudiad

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Graddfa(Graddfeydd) Hyfforddiant

  • rhythm/rheoleidd-dra
  • ystwythder/ymlacio
  • cyswllt/cysylltiad
  • gyriad
  • sythder
  • casgliad

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq316

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; marchogaeth; hyfforddiant