Paratoi a chynnal tir pori ar gyfer ceffylau
URN: LANEq313
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynnal tir pori ar gyfer ceffylau. Mae hyn yn cynnwys edrych ar ansawdd, maint ac addasrwydd tir pori. Mae hefyd yn cynnwys adnabod a rheoli presenoldeb chwyn a phlanhigion gwenwynig, adnabod a dileu peryglon, sicrhau cyflenwad digonol o ddŵr addas a gwirio ffiniau.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- asesu bod maint ac ansawdd tir pori yn briodol ar gyfer ceffylau sy'n pori
- paratoi a chynnal tir pori trwy adnabod a rheoli presenoldeb chwyn a phlanhigion gwenwynig
- adnabod presenoldeb unrhyw beryglon a chymryd y camau priodol
- asesu diogelwch a diogeledd ffiniau ar gyfer tir pori
- paratoi a chynnal ffiniau ar gyfer tir pori
- paratoi a chynnal cyflenwad digonol o ddŵr heb ei halogi
- cofnodi cyflwr y tir pori
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i wella ansawdd tir pori gwael ar gyfer ceffylau
- sut i gynnal ansawdd tir pori da ar gyfer ceffylau
- sut i adnabod a rheoli presenoldeb chwyn a phlanhigion gwenwynig
- sut i leihau plâu parasitig ar dir pori ar gyfer ceffylau
- y mathau gwahanol o ffiniau, eu haddasrwydd a'u defnydd
- sut gellir darparu lloches a'i gynnal ar gyfer ceffylau
- pwysigrwydd cyflenwad dwr mewn lleoliad addas
- sut i reoli'r cyflenwad dwr trwy gydol y flwyddyn
- pwysigrwydd cynnal diogelwch ardaloedd pori
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffiniau:
- gatiau
- muriau
- ffensys
- ffosydd
- gwrychoedd
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq313
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; tir pori; pori