Rheoli ceffylau pan fyddant yn cael eu troi allan
URN: LANEq312
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli ceffylau pan fyddant yn cael eu troi allan. Bydd hyn yn cynnwys gwirio'r ceffylau a'r tir fel mater o drefn.
Dylech fod yn gallu asesu ffiniau ac unrhyw loches, a gwirio ymddygiad a chyflwr y ceffylau.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- asesu bod ffiniau'r tir a'r llochesi yn addas ac yn ddiogel ar gyfer ceffylau
- sicrhau bod cyflenwad digonol o ddŵr heb ei halogi ar gael
- rheoli'r gwaith o droi ceffylau allan fel y bo'n briodol
- gwirio ymddygiad a diogelwch ceffylau yn rheolaidd a hysbysu fel bo angen, yn unol â'r gweithdrefnau
- trefnu'r gwaith o ddal a dod â cheffylau i mewn
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y peryglon posibl wrth symud, rhyddhau a dal ceffylau
- y dulliau o droi ceffylau allan ar dir pori rheolaidd a newydd
- pa mor aml i wirio'r ceffyl, y cae a'r dwr yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a'r tywydd
- y wybodaeth sydd angen ei hysbysu a'i chofnodi
- sut i gyflwyno ceffyl newydd i grwp sydd wedi ei sefydlu
- ymddygiad grwp ceffylau
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Darparu tystiolaeth perfformiad ar gyfer y canlynol:
- rhyddhau ceffyl ar dir pori
- dal ceffyl ar dir pori
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffiniau:
- gatiau
- muriau
- ffensys
- ffosydd
- gwrychoedd
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq312
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; pori; ymarfer