Paratoi ceffylau rasio ar gyfer eu cyfrwyo a’r cylch arddangos

URN: LANEq311
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ceffylau rasio ar gyfer eu cyfrwyo a'r cylch arddangos.

Mae'r safon hon yn cynnwys dethol a gosod y cyfrwyau a'r offer. Dylech allu paratoi'r ceffyl rasio ar gyfer y cylch arddangos.

Dylech fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. cynllunio'r weithdrefn gyfrwyo yn unol â rhaglen y ras a pharatoi ceffyl rasio ar gyfer ei gyfrwyo
  3. dethol a gosod y cyfrwyau a'r offer priodol
  4. adnabod a hysbysu ynghylch unrhyw ddiffygion neu niwed i'r cyfrwy a'r offer a chymryd camau priodol
  5. trin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, sy'n osgoi ymddygiad sy'n achosi pryder yn ymwneud â lles ac sy'n cynnal iechyd a diogelwch
  6. paratoi'r ceffyl rasio ar gyfer y cylch arddangos yn unol â'r gofynion
  7. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. gweithdrefnau'r cae ras a rheolau rasio
  3. sut i gyfrwyo ceffylau a'r anawsterau y gellid dod ar eu traws
  4. diben a sut i osod offer
  5. pwysigrwydd defnyddio technegau trin ac atal a lleihau straen i'r ceffyl, a pheryglon i chi eich hun ac eraill
  6. gofynion rheoliadol offer
  7. sut i baratoi ceffylau ar gyfer y cylch arddangos
  8. casglu cyfrwyau ac offer ar ôl pwyso allan
  9. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli  
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Dewis a gosod yr offer canlynol:

  • plât brest

  • cengl brest

  • ffrwynau dall
  • cysgod llygaid
  • lliain pwysau
  • rhwyd
  • strap tafod
  • tondres
  • band trwyn Awstralia
  • gorchudd llygaid
  • lliain rhif
  • mortical Gwyddelig
  • siami/sgrim/pad

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq311

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; cyfrwy; arddangos