Cyflwyno ceffylau ifanc i offer er mwyn cynorthwyo hyfforddiant a datblygiad

URN: LANEq310
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno ceffylau ifanc i offer, er mwyn cynorthwyo hyfforddiant a datblygiad. Dylech allu adnabod anghenion hyfforddiant ceffylau ifanc, cyflwyno gweithdrefnau hyfforddiant, monitro cynnydd ac addasu'r rhaglen. Bydd angen i chi gytuno ar yr hyfforddiant gyda'r person priodol a, lle bo angen, ei addasu er mwyn ystyried unrhyw gyngor a roddir.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. adnabod anghenion hyfforddiant a datblygiad ceffylau ifanc unigol a chytuno ar y rhain gyda'r person priodol
  3. cyflwyno'r ceffylau ifanc i'r gweithdrefnau trin, clymu a hyfforddiant cychwynnol sylfaenol priodol
  4. trin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, sy'n osgoi ymddygiad sy'n achosi pryder yn ymwneud â lles ac sy'n cynnal iechyd a diogelwch
  5. dewis, cyflwyno a gosod offer marchogaeth addas ar y ceffyl ifanc yn unol â gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant
  6. cynnal lles corfforol a meddyliol y ceffyl ifanc trwy gydol y broses
  7. monitro cynnydd y rhaglen hyfforddiant a datblygiad a hysbysu'r person priodol am hyn
  8. adnabod ble mae angen gwneud addasiadau ac addasu'r rhaglen yn unol â'r gofynion ac o fewn lefel eich cyfrifoldeb
  9. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gofal a hyfforddiant y ceffyl ifanc
  10. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. sut i gyflwyno ceffylau ifanc i offer a thrin sylfaenol
  3. sut i hyfforddi ceffylau ifanc o wyth mis [oed] nes eu bod yn barod i gael eu marchogaeth
  4. seicoleg ceffylau ifanc
  5. pwysigrwydd agwedd dda mewn ceffylau ifanc
  6. defnyddio a gosod offer marchogaeth yn cynnwys: ffrwyn, carthen, rholiwr, ffrwyn, awenau ochr ac esgidiau uchel
  7. dulliau effeithiol o ddechrau hyfforddiant a datblygiad ceffylau ifanc
  8. canlyniadau ceffyl ifanc yn cael profiad negyddol o hyfforddiant
  9. pwysigrwydd cyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gofal a hyfforddiant y ceffyl ifanc
  10. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  11. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Dewis a gosod yr offer marchogaeth canlynol:

  • ffwyn
  • carthen
  • rholiwr
  • ffrwyn enfaog
  • awenau ochr
  • esgidiau uchel

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq310

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; hyfforddiant; iechyd a lles anifeiliaid