Paratoi ceffylau ar gyfer ymddangosiad cyhoeddus

URN: LANEq309
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi ceffylau ar gyfer ymddangosiad cyhoeddus.  Mae hyn yn cynnwys tocio a phlethu mwng a chynffonau'r ceffylau, lle maent yn cael eu harddangos i'r cyhoedd. Bydd angen i chi allu defnyddio dulliau addas o atal yn ystod y gwaith, a defnyddio'r offer yn ddiogel ac yn gywir.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. cadarnhau'r gofynion ar gyfer paratoi'r ceffyl ar gyfer ymddangosiad cyhoeddus gyda'r person priodol
  3. dewis a defnyddio'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer y gwaith
  4. trin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, sy'n osgoi ymddygiad sy'n achosi pryder yn ymwneud â lles ac sy'n cynnal iechyd a diogelwch
  5. tynnu mwng a/neu gynffon ceffyl os yw'n briodol ac yn unol â disgyblaeth neu ofynion
  6. tocio ceffyl yn unol â disgyblaeth neu ofynion
  7. plethu mwng a/neu gynffon ceffyl yn unol â disgyblaeth neu ofynion
  8. gosod marciau chwarthor yn unol â disgyblaeth neu ofynion
  9. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. pwysigrwydd defnyddio technegau trin ac atal priodol a lleihau straen i'r ceffyl a pheryglon i chi eich hun ac eraill
  3. y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer y gwaith a'u defnydd cywir
  4. sut i dynnu mwng a/neu gynffon ceffyl a phryd y byddai hyn yn briodol
  5. sut i blethu a thocio mwng a/neu gynffon ceffyl, a gosod marciau chwarthor
  6. amrywiad y gofynion ar gyfer disgyblaethau gwahanol ar gyfer tocio a phlethu mwng a/neu gynffon ceffyl
  7. y safonau paratoi sy'n ofynnol ar gyfer ymddangosiadau cyhoeddus lefel uchel
  8. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  9. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gall tocio gynnwys:

  • blew
  • sodlau
  • llinell yr ên
  • cynffon

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq309

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; tocio; plethu; mwng; cynffon; atal; iechyd a lles anifeiliaid