Clipio ceffylau

URN: LANEq308
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys clipio ceffylau yn unol â gofynion cytûn. Mae hefyd yn cynnwys cynnal a chadw a gofalu am offer clipio. Dylech allu trin y ceffyl yn briodol yn ystod y gweithgaredd a lleihau unrhyw straen neu anaf.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. cadarnhau'r gofynion ar gyfer clipio'r ceffyl gyda'r person priodol
  3. trin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, sy'n osgoi ymddygiad sy'n achosi pryder yn ymwneud â lles ac sy'n cynnal iechyd a diogelwch
  4. paratoi'r ceffyl, yr offer a'r ardal ar gyfer clipio, yn unol â'r gofynion
  5. dewis y math angenrheidiol o glip i fodloni'r gofynion
  6. clipio côt y ceffyl yn unol â'r gofynion a'r math o glip a ddewiswyd
  7. defnyddio a chadw offer clipio mewn cyflwr sy'n briodol ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  8. gofalu am geffylau ar ôl clipio, yn unol ag anghenion y ceffyl a gweithdrefnau'r iard
  9. cyfathrebu gydag eraill a chynnal gwaith tîm effeithiol
  10. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. y mathau gwahanol o glip a phryd y cânt eu defnyddio, yn cynnwys mathau llawn a rhannol
  3. y rhesymau dros glipio ceffylau
  4. sut i glipio ardaloedd lletchwith a llinellau coesau
  5. sut i gyflwyno ceffylau i glipio
  6. y dulliau atal y mae'n rhaid eu defnyddio wrth glipio
  7. sut i ragweld ac ymdrin â cheffylau sydd yn anodd eu clipio
  8. sut i gynnal a chadw a gofalu am offer clipio
  9. y defnydd o atalwyr cylched ar gyfer offer clipio
  10. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  11. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

creu dau fath gwahanol o glip


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq308

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; clip; iechyd a lles anifeiliaid; anaf