Harneisio ceffylau ar gyfer gwaith arbenigol
URN: LANEq307
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys harneisio ceffylau ar gyfer gwaith arbenigol. Dylech fod yn gallu dewis, cymhwyso a gosod yr harneisiau ar gyfer y gweithgaredd penodedig, a sicrhau bod yr harneisiau yn ddiogel cyn trosglwyddo i'r defnyddiwr. Bydd angen i chi weithio i derfyn amser. Gallai harneisiau fod ar gyfer cystadlaethau gyda disgyblaethau gwahanol.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- cadarnhau gofynion ar gyfer harneisio ceffylau gyda'r person priodol
- trin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, sy'n osgoi ymddygiad sy'n achosi pryder yn ymwneud â lles ac sy'n cynnal iechyd a diogelwch
- dewis, cymhwyso a gosod yr harneisiau ar gyfer y gwaith arbenigol, yn unol â'r gofynion
- gwirio bod yr harneisiau yn ddiogel ac yn addas i'w defnyddio cyn trosglwyddo i'r defnyddiwr
- adnabod unrhyw harneisiau diffygiol a chymryd y camau priodol o fewn terfynau eich awdurdod
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y mathau o waith arbenigol posibl a'r gofynion ar gyfer harneisio ceffylau
- y mathau o gyfrwyon, ffrwynau genfaog, ffrwynau, rhwymau, esgidiau uchel ac offer arall a ddefnyddir ar gyfer gwaith arbenigol
- pwysigrwydd defnyddio technegau trin ac atal priodol a lleihau straen i'r ceffyl a pheryglon i chi eich hun ac eraill
- sut mae ffit yr harneisiau yn effeithio ar symudiad y ceffyl
- peryglon harneisiau anniogel a sut i sicrhau bod yr harneisiau yn ddiogel
- cyfyngiadau eich cyfrifoldeb ar gyfer ymdrin â harneisiau diffygiol
- y polisi a'r gweithdrefnau ar gyfer harneisio
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Dewis, cymhwyso a gosod yr harneisiau canlynol:
cyfrwy GP
ffrwyn enfaog gyda band trwyn penwar
- offer arbenigol, e.e. cyfrwyon neidio neu dressage, amrywiaeth o ffrwynau, bandiau trwyn, platiau brest a morticals
- esgidiau uchel ymarfer a rhwymau
- offer arall lle y bo'n briodol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq307
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; harneisiau; iechyd a lles anifeiliaid