Hybu iechyd a lles ceffylau

URN: LANEq306
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hybu iechyd a lles ceffylau trwy ddarparu'r amgylchedd a'r triniaethau arferol sy'n sicrhau bod y ceffyl yn aros yn iach ac yn hapus. Mae hefyd yn cynnwys adnabod a thrin problemau iechyd a mân anhwylderau. Mae'r safon hon yn berthnasol i bob math o geffylau.

Mae'r safon hon yn cynnwys gofalu am geffylau er mwyn lleihau'r perygl o anafiadau a salwch, mae'n cynnwys gallu adnabod ac ymateb i arwyddion o salwch, yn ogystal â gwybod pryd i alw am gymorth proffesiynol.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. trin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, sy'n osgoi ymddygiad sy'n achosi pryder ynghylch lles ac sy'n cynnal iechyd a diogelwch
  3. trin ceffylau mewn ffordd sy'n lleihau unrhyw debygolrwydd o straen, ac yn hybu eu hiechyd a'u lles yn unol ag arfer da a deddfwriaeth bresennol
  4. darparu amgylchedd addas a thriniaethau arferol i hybu iechyd a lles y ceffyl
  5. monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad ceffyl yn effeithiol
  6. cymryd a chofnodi tymheredd, curiad calon ac anadlu'r ceffyl yn gywir a chyfleu hyn i'r person priodol
  7. adnabod unrhyw arwyddion annormal a chymryd y camau priodol
  8. sicrhau cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch
  9. cadw cofnodion cywir a diweddar yn unol â deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  10. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. pwysigrwydd defnyddio technegau trin ac atal priodol a lleihau lefelau straen i ddiogelwch y triniwr a'r ceffyl
  3. sut i hybu iechyd a lles ceffylau a lleihau straen ac anafiadau a achosir iddynt
  4. gweithdrefnau cymorth cyntaf, trin ceffylau a'ch cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth berthnasol lles anifeiliaid
  5. pam mae angen ymarfer corff ar geffylau a gofynion ymarfer corff ar gyfer mathau gwahanol o weithgaredd
  6. arwyddion iechyd da a gwael mewn perthynas ag ymddangosiad, osgo a symudiad, ymddygiad a gweithrediad corff ceffyl
  7. y camau i'w cymryd pan fydd arwyddion iechyd gwael yn cael eu gweld
  8. sut i dynnu pedol wedi ei niweidio yn ddiogel heb achosi niwed i droed y ceffyl
  9. sut i adnabod argyfwng o ran iechyd ceffyl a phryd i alw'r milfeddyg
  10. gofynion cofnodion iechyd a thriniaeth a pham y maent yn bodoli
  11. rheoli ceffyl yn dilyn triniaeth neu weithdrefn benodol
  12. y gweithdrefnau ar gyfer ynysu a phryd y byddai angen hyn
  13. y gweithdrefnau ar gyfer nyrsio salwch yn cynnwys hylendid a bioddiogelwch
  14. cydffurfiad y ceffyl a'i berthynas â symud a gweithredu
  15. anatomeg a ffisioleg sylfaenol y ceffyl yn cynnwys systemau ysgerbydol, cyhyrol, cylchredol ac anadlol
  16. pwysigrwydd gwerthuso'r camau a gymerir wrth ymdrin ag unrhyw broblemau gydag iechyd a lles ceffylau

Cwmpas/ystod

Monitro'r agweddau canlynol o gyflwr corfforol ac ymddygiad:

  • ymddangosiad
  • osgo a symudiad
  • ymddygiad
  • gweithrediad y corff
  • arwyddion iechyd

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Problemau iechyd cyffredin ymysg ceffylau:

  • colig
  • asotwria
  • RAO
  • clwyf yr ysgyfaint
  • ffliw ceffylau
  • cloffni
  • tarwden
  • cornwydydd traed
  • llaid
  • clwyfau ac anafiadau eraill
  • chwydd
  • sgaldiad glaw
  • cosfa'r haf
  • dysychu
  • straen
  • clefyd Cushing Ceffylau - (PPID)
  • salwch y gwair
  • myopathi annodweddiadol
  • cloffni
  • melanomas
  • sarcoidau
  • tetanws
  • botwliaeth
  • pwn llyngyr

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq306

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; iechyd a lles anifeiliaid; triniaethau; anafiadau; salwch