Monitro a chynnal stociau bwyd a deunydd gwely ar gyfer ceffylau
URN: LANEq305
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a chynnal stociau bwyd a deunydd gwely ar gyfer ceffylau, yn cynnwys sicrhau bod cyflenwad digonol, monitro storfa a rheoli'r ffordd y caiff stociau eu trin. Dylech fod yn gallu gwirio'r cyflenwad a chymryd y camau priodol os oes unrhyw namau neu ddiffygion. Bydd angen i chi hefyd allu storio a defnyddio bwyd a deunydd gwely yn effeithiol.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- derbyn bwyd a deunydd gwely ar gyfer ceffylau a'u gwirio yn erbyn nodiadau dosbarthu ac archebion gwreiddiol
- asesu ansawdd bwyd a deunydd gwely ceffylau
- cofnodi unrhyw namau neu ddiffygion, hysbysu'r person priodol ynghylch y rhain a chymryd y camau priodol
- storio cyflenwadau yn briodol a chylchdroi stoc lle bo angen
- defnyddio bwyd a deunydd gwely ceffylau yn briodol
- monitro a chofnodi stoc i gynnal y lefelau gofynnol o fwyd a deunydd gwely
- gweithredu'n briodol pan fydd stociau bwyd a deunydd gwely'n cyrraedd y lefel ofynnol ar gyfer ailarchebu
- cyfathrebu gydag eraill a chynnal gwaith tîm effeithiol
- defnyddio technegau codi ac ymdrin diogel bob amser
- monitro a chynnal iechyd a diogelwch ceffylau, chi eich hun ac eraill yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- pam y dylid gwirio dosbarthiadau bwyd a deunydd gwely ceffylau yn erbyn y nodyn dosbarthu a'r archeb wreiddiol ac olrhain unrhyw ddiffygion
- y dulliau effeithiol o storio mathau gwahanol o fwyd a deunydd gwely ceffylau a diben argymhellion y gwneuthurwr o ran storio
- sut y gallai storio gwael effeithio ar fwyd a deunydd gwely ceffylau
- pam y mae'n rhaid defnyddio bwyd ceffylau yn systemataidd
- diben monitro a chynnal stociau bwyd a deunydd gwely ceffylau a'r effaith y gallai lefelau isel ei gael
- pa gamau i'w cymryd pan fydd stociau bwyd a deunydd gwely ceffylau yn cyrraedd y lefel ofynnol ar gyfer ailarchebu
- pam y dylid cofnodi a hysbysu ynghylch unrhyw niwed, a chanlyniadau posibl peidio gwneud hynny
- pwysigrwydd gwerthuso'r camau a gymerir wrth ymdrin ag unrhyw broblem gyda stociau bwyd a deunydd gwely ceffylau
- y dulliau o storio ac ymdrin â stociau bwyd a deunydd gwely ceffylau
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq305
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; stoc bwyd; bwyd; deunydd gwely; ymdrin