Cynllunio deiet a gweithredu cyfundrefnau bwydo ar gyfer ceffylau

URN: LANEq304
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio deiet a gweithredu cyfundrefnau bwydo ar gyfer ceffylau. Dylech allu adnabod gofynion deietegol ceffylau a phenderfynu faint o fwyd sydd ei angen. Bydd hefyd angen i chi ymdrin ag unrhyw atchwanegiadau angenrheidiol i'r deiet a gofynion deietegol arbennig. Mae'n hanfodol bod eich gwaith yn nodi unrhyw newidiadau angenrheidiol mewn gofynion deietegol ac yn caniatáu newidiadau i'r dogn.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r gofynion deietegol o ran maeth ar gyfer ceffylau a chynllunio eu deiet, yn cynnwys porthiant, dwysfwydydd a dwr
  2. sefydlu maint ac amlder bwydo
  3. nodi unrhyw atchwanegiadau neu ychwanegiadau angenrheidiol i'r deiet
  4. nodi a chofnodi gofynion deietegol arbennig
  5. gweithredu cyfundrefnau bwydo sy'n ystyried y polisi bwydo a gofynion y ceffyl, ac yn caniatáu newidiadau i'r dognau
  6. addasu dognau i fodloni newidiadau yng ngofynion deietegol y ceffyl ac i wella iechyd a llesiant y ceffyl
  7. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ffactorau all effeithio ar gynllunio deiet a chyfundrefnau bwydo ar gyfer ceffylau
  2. effeithiau argaeledd, tymoroldeb a chostau ar ddeiet a chyfundrefnau bwydo
  3. y gofynion deietegol ar gyfer ceffylau: porthiant, dwysfwydydd a dwr
  4. y mathau o fwydydd, paratoi bwyd a dewisiadau amgen i wair
  5. y mathau o ychwanegiadau neu atchwanegiadau deietegol a'r rhesymau dros eu cynnwys yn y deiet
  6. y clefydau a'r salwch sydd yn gofyn am ddeiet arbennig
  7. anatomeg a swyddogaeth y system draul
  8. y rhesymau dros ddefnyddio systemau bwydo gwahanol
  9. pwysigrwydd gwerthuso'r camau a gymerir wrth ymdrin ag unrhyw broblemau yn cynllunio deiet a gweithredu cyfundrefnau bwydo ar gyfer ceffylau
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Cyfundrefnau bwydo:

  • hwsmonaeth arferol
  • gofynion deietegol arbennig

Gofynion deietegol:

  • porthiant
  • dwysfwydydd
  • dŵr
  • atchwanegiadau ac ychwanegiadau

Cynllunio dognau bwydo, gan ystyried:

  • arfer da presennol
  • pwysau corff y ceffyl
  • cyflwr y ceffyl
  • lefel y gwaith
  • math a natur (yn cynnwys ceffylau blinedig, sâl neu ffwdanus)

Cynllunio cyfundrefnau bwydo effeithiol gan ystyried:

  • argaeledd bwyd a phorthiant
  • tymoroldeb
  • costau a bwydydd a phorthiant

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ffactorau sy'n effeithio ar ddeiet a chyfundrefnau bwydo:

  • pwysau'r corff
  • oed
  • cyflwr atgenhedlu
  • cyflwr
  • lefel a'r math o waith
  • math a natur y ceffyl
  • blinder
  • ceffylau sâl a ffwdanus
  • polisi bwydo

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq304

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; bwyd; dŵr; deiet; dogn; maeth; iechyd a lles anifeiliaid