Rhoi triniaethau gofal iechyd sylfaenol i geffylau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys rhoi triniaethau gofal iechyd sylfaenol i geffylau, yn unol â chyfarwyddiadau milfeddygol a gofynion deddfwriaethol. Mae hefyd yn cynnwys adnabod a thrin problemau iechyd a mân anhwylderau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob math o geffylau. Dylech wybod ble i gael cymorth os ydych yn cael unrhyw broblemau.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- storio a gweinyddu cyffuriau, meddyginiaethau ac offer a ddefnyddir i roi triniaethau gofal iechyd sylfaenol i geffylau, yn unol â chyfarwyddiadau milfeddygol a gofynion iechyd a diogelwch
- defnyddio meddyginiaeth gyfredol heb ei halogi'n unig ar gyfer y ceffyl perthnasol
- ymdrin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles yr anifail, yn osgoi ymddygiad sy'n achosi pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- rhoi'r driniaeth gofal iechyd sylfaenol i'r ceffyl fel y nodir, gan ddefnyddio'r dechneg a'r amlder cywir
- gweinyddu gweithdrefnau brys lle bo angen
- cael cymorth heb oedi pan nad yw'n bosibl gweinyddu'r driniaeth gofal iechyd sylfaenol i'r ceffyl
- gweithredu gofal, deiet ac ymarfer arferol priodol ar gyfer y ceffyl ar ôl y driniaeth
- arsylwi ceffylau ar ôl y driniaeth a hysbysu ynghylch unrhyw arwyddion anarferol ar unwaith
- cymryd camau priodol os rhagwelir clefydau heintus neu heintiol
- sicrhau bod lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal
- cadw cofnodion cywir a diweddar fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- cyfathrebu gydag eraill a chynnal gwaith tîm affeithiol
- sicrhau bod gwastraff o driniaethau gofal iechyd yn cael eu gwaredu'n ddiogel ac yn gywir
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- pam y mae angen dehongli cyfarwyddiadau meddyginiaethau yn gywir
- sut i ddefnyddio'r offer sy'n briodol ar gyfer trin y ceffyl
- pwysigrwydd defnyddio technegau ymdrin ac atal a lleihau lefelau straen i ddiogelwch y triniwr a'r ceffyl
- y gweithdrefnau glanhau a hylendid i'w dilyn wrth gyflwyno triniaethau gofal iechyd er mwyn lleihau milheintiau a chlefydau trosglwyddadwy eraill
- sut i roi triniaethau gofal iechyd a gweithdrefnau brys i geffylau
- sgil-effeithiau neu adweithiau niweidiol i feddyginiaeth a allai ddigwydd i'r ceffyl
- y rhesymau dros a'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer atal y defnydd o gyffuriau
- y gofynion deddfwriaethol ar gyfer defnyddio a storio cyffuriau
- arwyddocâd dyddiadau dod i ben ar gyffuriau a meddyginiaethau a'r gweithdrefnau cywir ar gyfer eu gwaredu
- y gweithdrefnau ar gyfer gwaredu gwastraff a nodwyddau wedi eu halogi a heb eu halogi yn ddiogel
- y camau priodol os rhagwelir neu y gwelir clefydau heintus neu heintiol
- pwysigrwydd gwerthuso'r camau a gymerir wrth ymdrin ag unrhyw broblemau yn rhoi triniaethau gofal iechyd sylfaenol i geffylau
- pwysigrwydd cadw cofnodion cyflawn a chywir fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cyflenwi'r feddyginiaeth ganlynol:
meddyginiaeth presgripsiwn yn unig
meddyginiaeth dros y cownter
- rheoli parasitiaid
Cyflenwi'r mathau canlynol o driniaeth:
- gweithdrefnau glanhau a hylendid
- triniaethau lleol
- triniaethau trwy'r geg
- triniaethau ar gyfer clwyfau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai'r triniaethau gynnwys:
powltrisiau (poeth neu oer)
golchi mewn twba
- chwistrellu
- twymolchi
Gallai'r meddyginiaethau gynnwys:
- pastau
- powdrau
- hylif drwy'r geg neu mewn bwyd
Gallai triniaethau lleol gynnwys:
- powdrau gwrth-heintiol
- elïau
- golchiadau