Derbyn ceffyl a chynnal asesiad cychwynnol
URN: LANEq302
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn ceffyl a chynnal asesiad cychwynnol.
Mae'r meysydd yn cynnwys newydd-ddyfodiaid, adsefydlu, ailgartrefu, ymddeol ac ailhyfforddi.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- derbyn y ceffyl mewn ffordd fydd yn hybu ei gydweithrediad a lleihau trallod
- ymdrin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sy'n peri pryder o ran lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- ymgartrefu'r ceffyl mewn llety priodol neu ardal asesu
- cynnal asesiad cychwynnol o'r ceffyl yn cynnwys hunaniaeth, cyflwr corfforol, iechyd, symudedd, ymddygiad a chryfderau a gwendidau
- cadw cofnodion cywir a diweddar yn unol â deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- sicrhau bod gan bob aelod arall o'r staff fanylion priodol yn cynnwys unrhyw ofynion penodol
- gwneud unrhyw weithredoedd dilynol sy'n ofynnol ar ôl derbyn y ceffyl
- sicrhau bod lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal
- monitro a hybu iechyd a lles y ceffyl drwy'r amser
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i dderbyn ceffyl a'i ymgartrefu mewn llety priodol neu ardal asesu
- sut i ddewis y dull priodol o ymdrin ac atal ar gyfer ceffyl
- y gweithdrefnau asesu cychwynnol a pham y dylid eu gwneud
- y mathau o weithredoedd dilynol a allai fod eu hangen ar ôl derbyn y ceffyl
- pwysigrwydd cadw cofnodion cyflawn a chywir fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- pwysigrwydd cyfrinachedd gwybodaeth a diogelu data
- pwysigrwydd cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch a sut y gellir cyflawni'r rhain
- sut i reoli cyfathrebu, yn fewnol ac yn allanol
- y ffactorau a allai effeithio ar asesiad cychwynnol y ceffyl
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Derbyn y mathau canlynol o geffyl:
- y rheiny sy'n ymddangos mewn cyflwr da yn gyffredinol
- y rheiny sy'n ymddangos mewn cyflwr gwael
- y rheiny â symudedd cyfyngedig
Cynnal asesiad cychwynnol ar y mathau canlynol o geffyl:
- y rheiny sy'n ymddangos mewn cyflwr da yn gyffredinol
- y rheiny sy'n ymddangos mewn cyflwr gwael
- y rheiny â symudedd cyfyngedig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq302
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; adsefydlu; ailhyfforddi; ymddeol; ailgartrefu; iechyd a lles anifeiliaid