Datblygu a gweithredu cynllun adsefydlu/ailhyfforddi ceffyl

URN: LANEq301
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a gweithredu cynllun adsefydlu neu ailhyfforddi ceffyl.

Mae'r safon hon yn cynnwys monitro ymddygiad ceffyl er mwyn gwella'r cynllun adsefydlu cychwynnol.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. casglu gwybodaeth o'r asesiad cychwynnol o'r ceffyl a gwybodaeth arall a gofnodwyd
  3. datblygu a chytuno gyda phartïon priodol ar gynllun adsefydlu neu ailhyfforddi ceffyl i fodloni amcanion cytûn, yn cynnwys ardaloedd llety, ymdrin, bwydo, gofal iechyd ac ymarfer
  4. gweithredu'r cynllun adsefydlu neu ailhyfforddi'r ceffyl
  5. monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad y ceffyl yn rheolaidd, cofnodi'r wybodaeth, ei gwerthuso a gweithredu'n briodol
  6. gweinyddu meddyginiaeth trwy'r geg/yn lleol i'r ceffyl lle bo angen yn unol â'r cynllun adsefydlu neu ailhyfforddi
  7. adolygu a diweddaru cynllun adsefydlu neu ailhyfforddi'r ceffyl ar adegau y cytunwyd arnynt
  8. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. yr elfennau allweddol yn datblygu rhaglen ar gyfer adsefydlu neu ailhyfforddi ceffylau, yn cynnwys nodau realistig
  3. y rhesymau dros gofnodi iechyd, ymddygiad a gwybodaeth am feddyginiaeth y ceffyl
  4. sut i wybod pan fydd angen addasu cynllun adsefydlu neu ailhyfforddi ceffyl
  5. gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'u rôl yn adsefydlu neu'n ailhyfforddi ceffyl
  6. goblygiadau meddyginiaeth gofal iechyd hirdymor
  7. y problemau yn ymwneud â gorffwys y ceffyl mewn bocs a faint y gall beryglu ffordd o fyw naturiol y ceffyl
  8. swyddogaeth y grwpiau gwahanol o gyhyrau mewn ceffylau
  9. sut i wahaniaethu rhwng cyhyrau, gewynnau a thenynnau ar ffrâm ysgerbydol ceffyl
  10. y mathau cyffredin o anafiadau i geffyl
  11. pwysigrwydd pedolau adferol a'r ffordd y byddent yn cael eu defnyddio i adsefydlu neu ailhyfforddi ceffyl
  12. y technegau i leddfu diflastod a straen wrth ymdrin â cheffylau â chyflyrau penodol
  13. y technegau ymdrin wrth ymdrin â cheffylau â chyflyrau penodol
  14. sefydliadau lles ceffylau a'u rôl yn y diwydiant
  15. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Datblygu a gweithredu cynllun adsefydlu ac ailhyfforddi ceffyl ar gyfer y mathau canlynol o geffyl:

  • y rheiny ag iechyd da
  • y rheiny ag iechyd gwael

Casglu'r wybodaeth ganlynol:

  • iechyd ceffyl
  • cyflwr ceffyl
  • rhesymau dros adsefydlu neu hyfforddi

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq301

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; adsefydlu; ailhyfforddi; iechyd a lles anifeiliaid