Cynorthwyo’r gwaith o symud cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl ac offer ar gyfer cludo â llaw
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu i gynorthwyo'r gwaith o symud cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl ac offer ar gyfer cludo â llaw. Mae hyn hefyd yn cynnwys symud ar gyfer cynnal a chadw a storio. Mae'n cynnwys gallu cynorthwyo'r gwaith o godi pwysau ysgafn, cymedrol a thrwm.
Byddwch yn gallu cynorthwyo'r gwaith o dynnu, gwthio a llywio cerbydau ar olwynion wedi eu tynnu gan geffyl, neu godi offer amaethyddol wedi eu tynnu gan geffyl i'r cerbyd cludo, gan ddefnyddio winshis os oes rhai wedi eu gosod, clymu'n ddiogel ar gyfer cludo ac adnewyddu yn yr ardal storio.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynorthwyo'r gwaith o symud cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu offer i'w safle ar gyfer eu cludo
- defnyddio cymhorthion codi priodol i symud y cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu offer ar y cerbyd cludo
- cysylltu â winsh, lle mae un ar gael, a winsio ar y cerbyd cludo
- diogelu cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu offer ar gyfer eu cludo
- tynnu'r cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu'r offer o'r cerbyd cludo ar ôl eu cludo
- cynnal eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rolau a'ch cyfrifoldebau yn cynorthwyo'r gwaith o symud cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl ac offer ar gyfer eu cludo
- sut i lywio neu godi'r cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu offer i'r safle cywir ar gyfer eu llwytho ar y cerbyd cludo
- sut i gysylltu a defnyddio winsh yn gywir
- sut i wthio, tynnu neu godi'r cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu offer ar y cerbyd cludo
- sut i ddiogelu'r cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu offer ar gyfer eu cludo
- sut i ddadlwytho'r cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu offer ar ôl eu cludo
- sut i gynorthwyo eraill i symud, llwytho a dadlwytho cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu offer o'r cerbyd cludo
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol