Gweithio gyda cheffylau harnais mewn gweithgareddau amaethyddol ac ar y tir
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda cheffylau harnais mewn gweithgareddau amaethyddol ac ar y tir fel amaethu, plannu a chynaeafu cnydau.
Mae'r safon hon yn cynnwys gallu paratoi ceffylau ac offer ar gyfer gwaith, a gofalu amdanynt a'u cynnal a'u cadw ar ôl y gwaith. Mae'n cynnwys gallu cynorthwyo'r gwaith o reoli a gofalu am y ceffyl tra'n gweithio yn ogystal â chyn ac ar ôl gweithio. Mae'n cynnwys gallu cynorthwyo'r gwaith o symud offer amaethyddol i'w safle ar gyfer gwaith.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwirio bod y ceffylau'n addas ar gyfer gwaith, hysbysu ynghylch unrhyw feysydd sy'n peri pryder a gweithredu yn unol â'r cyfarwyddiadau i gynnal lles y ceffyl
- paratoi ceffylau ffit ar gyfer gwaith; trin i safon sy'n briodol ar gyfer y gweithgareddau amaethyddol neu dir a fwriedir
- adnabod yr harnais sy'n briodol ar gyfer y dasg a fwriedir, a harneisio'r ceffylau
- adnabod yr offer amaethyddol sy'n briodol ar gyfer y dasg a fwriedir, a gwirio ei fod mewn cyflwr ymarferol ac yn addas i gael ei ddefnyddio
- cynorthwyo'r gwaith o osod yr offer amaethyddol yn barod i'w ddefnyddio
- cynorthwyo'r gwaith o gysylltu'r ceffylau â'r offer amaethyddol
- cynorthwyo'r gweithredwr gyda'r ceffyl wedi ei harneisio a'r offer amaethyddol tra'n gweithio mewn ystod o weithgareddau amaethyddol ac ar y tir
- monitro'r ceffylau tra'u bod yn gweithio am arwyddion o flinder neu straen, hysbysu a chymryd camau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gofalu am y ceffylau yn ystod egwyl am seibiant yn unol â'r cyfarwyddiadau
- archwilio a gofalu am y ceffylau ar ôl eu defnyddio
- gwirio, gofalu am a storio'r harnais a'r offer amaethyddol ar ôl eu defnyddio
- cynnal eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn cynorthwyo'r gwaith o weithio gyda cheffylau wedi eu harneisio ac offer amaethyddol mewn gweithgareddau amaethyddol ac ar y tir
- sut i adnabod arwyddion o salwch, anaf, cloffni, a briwiau harnais cyn defnydd
- sut i wirio traed a bod pedolau, os cânt eu gwisgo, yn addas at y diben
- goblygiadau lles ceffylau gwaith sydd yn dangos arwyddion o salwch, anaf, cloffni, briwiau neu anafiadau harnais neu niwed i'r traed neu'r pedolau
- y detholiad a'r defnydd cywir o harnais ar gyfer y gweithgareddau gofynnol
- y detholiad a'r defnydd cywir o offer amaethyddol ar gyfer y gweithgareddau gofynnol
- sut i wirio a pharatoi offer amaethyddol yn barod i'w defnyddio
- sut i adnabod arwyddion o flinder, cloffni neu straen yn y ceffyl tra'n gweithio, a pha gamau i'w cymryd er lles y ceffyl
- y dulliau o ofalu am y ceffyl yn ystod cyfnodau o seibiant
- sut i wirio a gofalu am y ceffyl ar ôl ei ddefnyddio
- sut i wirio, gofalu am a storio harneisiau ac offer amaethyddol ar ôl eu defnyddio
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol