Harneisio ceffylau ar ffrwyn hir ar gyfer ymarfer o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq241
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu harneisio ceffylau ar ffrwyn hir ar gyfer ymarfer, o dan oruchwyliaeth. Mae'n cynnwys gallu paratoi ceffylau ar gyfer ffrwyn hir, gosod offer ffrwyn hir a harneisio fel y bo'n briodol, paratoi ardal addas ar gyfer y gwaith, rhoi ceffylau ar ffrwyn hir yn unol â'r cyfarwyddiadau, a gofalu am geffylau ar ôl ymarfer.

Byddwch yn deall pwysigrwydd ymgyfarwyddo'r ceffyl sydd wedi ei harneisio â gorchmynion llais a synau na ellir eu gweld. Byddwch yn deall pwysigrwydd sefydlu a chynnal arhos ar ffrwyn hir, a gallu ffrwyno'n ôl.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. gwirio bod y ceffyl mewn cyflwr addas i gael ei roi ar ffrwyn hir
  3. paratoi'r ardal ffrwyn hir ar gyfer ymarfer
  4. rhoi'r ceffyl harnais ar ffrwyn hir o'r tu ôl ac mewn cylch o'ch amgylch, o dan oruchwyliaeth
  5. gwneud newidiadau i'r ffrwyn ar ffrwyn hir o'r tu ôl ac ar ffrwyn hir mewn cylch
  6. ymdrin â defnyddio'r chwip arwain yn briodol
  7. defnyddio cymhorthion llais yn briodol
  8. cadw rheolaeth dros y ceffyl bob amser
  9. cynnal eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn rhoi ceffylau harnais ar ffrwyn hir ar gyfer ymarfer
  3. sut i wirio bod y ceffyl yn addas i gael ei roi ar ffrwyn hir, ac adnabod arwyddion o salwch, cloffni neu anaf, fyddai'n effeithio ar les y ceffyl pe byddai'n cael ei weithio
  4. nodau a dibenion rhoi ceffylau harnais ar ffrwyn hir
  5. sut i ddefnyddio'r cymhorthion llais wrth roi ceffylau harnais ar ffrwyn hir, a phwysigrwydd sicrhau bod y ceffyl yn gyfarwydd â chymhorthion llais
  6. y mannau sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin wrth roi ceffylau harnais ar ffrwyn hir
  7. sut i wneud i geffylau harnais aros a pharhau i aros ar ffrwyn hir
  8. sut i ffrwyno'n ôl
  9. dibenion gallu aros a ffrwyno'r ceffyl yn ôl
  10. sut i asesu ymatebion y ceffyl i'r ymarferion ffrwyn hir
  11. sut i gyflawni newidiadau mewn cyflymder ac osgo ar ffrwyn hir gan ddefnyddio cymhorthion llais
  12. sut i ymdrin â'r ffrwynau a'r chwip arwain yn gywir ar ffrwyn hir
  13. diben pasio'r ffrwyn allanol o amgylch coesau ôl y ceffyl tra'n cynnal ffrwyn hir mewn cylch
  14. sut i gadw rheolaeth o'r ceffyl harnais bob amser
  15. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq241

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; harnais; ffrwyn hir