Gyrru ceffyl harnais unigol mewn ardal gaeëdig

URN: LANEq240
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu gyrru ceffyl harnais unigol mewn ardal gaeëdig i lefel cymhwysedd sylfaenol a gydnabyddir gan y diwydiant, o dan oruchwyliaeth gyrrwr profiadol.

Mae'n cynnwys gallu ymdrin â'r ffrwynau a chwipio'n gywir, gwneud defnydd effeithiol o Was Ceffylau Harnais, a gyrru cyfres o symudiadau sylfaenol yn gywir.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. gyrru ceffyl harnais unigol mewn ardal gaeëdig o dan oruchwyliaeth
  3. cynnal cyfres o symudiadau sylfaenol a newid cyflymder
  4. gwneud defnydd cywir o'r chwip gyrru
  5. defnyddio cymhorthion llais yn effeithiol
  6. gwneud defnydd effeithiol o'r Gwas Ceffyl Harnais
  7. gyrru o fewn cyfyngiadau'r ceffyl a cherbyd harnais unigol
  8. cynnal eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn gyrru ceffyl harnais unigol mewn ardal gaeëdig o dan oruchwyliaeth
  3. sut i adnabod rhannau o set o harnais unigol traddodiadol, a sut i harneisio ceffyl harnais unigol i'w ddefnyddio
  4. sut i roi ceffyl unigol i gerbyd a thynnu'r anifail allan ar ôl gyrru
  5. technegau ymdrin â ffrwynau
  6. sut i baratoi cerbyd wedi ei dynnu gan geffyl unigol ar gyfer ei ddefnyddio
  7. sut i gydbwyso cerbyd dwy olwyn
  8. sut i gynllunio llinellau agosáu yn unol â symudiadau penodol
  9. sut i adnabod cyflymderau cyffredin, yn cynnwys cerdded, trotian, trotian estynedig, a throtian cyflawn
  10. sut i newid o un cyflymder i'r llall yn llyfn
  11. y defnydd o ystod o offer yn ymwneud â gyrru, yn cynnwys y chwip gyrru, ffedog yrru a menig gyrru
  12. ystyr yr ymadroddion "stand up" a "walk on"
  13. pwysigrwydd gallu atal y ceffyl
  14. sut i wneud defnydd effeithiol o'r Gwas Ceffyl Harnais
  15. cyfyngiadau'r cerbyd yr ydych yn ei yrru
  16. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

symudiadau sylfaenol


cymhorthion llais


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq240

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; harnais; gyrru; cerbyd; gwas; ffrwynau; chwip