Paratoi a gofalu am gerbydau wedi eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gofalu am gerbydau wedi eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig.
Bydd yn cynnwys glanhau'r cerbyd neu'r cyfarpar a'r offer i'r safon sy'n ofynnol ar gyfer ei ddefnyddio, cynnal gwiriadau diogelwch fel mater o drefn cyn mynd ar daith, hysbysu ynghylch y canfyddiadau a gweithredu yn unol â'r cyfarwyddiadau er mwyn sicrhau bod y cerbyd neu'r cyfarpar a'r offer yn addas at y diben y'u bwriadwyd.
Mae'r safon hefyd yn cynnwys gallu nodi mathau gwahanol o gerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer sy'n ymwneud â gyrru, a'u cydrannau. Mae hefyd yn cynnwys deall eu defnydd a'u swyddogaethau cywir.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gysylltiedig â pharatoi a gofalu am gerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- glanhau a pharatoi'r cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig i safon briodol ar gyfer y defnydd y'u bwriadwyd
- cynnal a chadw'r cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig
- cynnal gwiriadau cyn defnyddio'r cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig am draul a niwed
- gweithredu yn unol â'r cyfarwyddiadau er mwyn sicrhau bod y cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig yn addas at y diben cyn eu defnyddio
- sicrhau bod yr holl offer yn ymwneud â gyrru yn ei le yn gywir cyn ei ddefnyddio
- gofalu am y cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig ar ôl eu defnyddio, a chynnal gwiriadau ar ôl eu defnyddio am arwyddion o draul neu niwed
- hysbysu ynghylch unrhyw feysydd sydd yn peri pryder a gweithredu yn unol â'r cyfarwyddiadau
- storio cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig yn briodol ar ôl eu defnyddio
- cynnal eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â pharatoi cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig ar gyfer eu defnyddio
- ystod o gerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu gyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig, a'u defnydd a'u swyddogaethau cywir
- rhannau sylfaenol cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl neu gyfarpar amaethyddol, a swyddogaethau pob rhan ac eitem
- pwysigrwydd cynnal gwiriadau cyn ac ar ôl defnyddio am draul neu niwed
- sut i gynnal a chadw cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer cysylltiedig fel mater o drefn
- sut i storio cerbydau wedi eu tynnu gan geffyl, cyfarpar amaethyddol ac offer yn gywir pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol