Paratoi a gofalu am harnais ceffylau
URN: LANEq238
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi a gofalu am harnais ceffylau. Mae'n cynnwys gallu adnabod y rhannau, cydosod a glanhau setiau o harneisiau ar gyfer eu defnyddio. Mae'r safon yn cynnwys cynnal gwiriadau arferol am draul, rhwygiadau neu niwed i'r harnais, gan atal eitemau o'r fath rhag cael eu defnyddio a'u hadnewyddu yn unol â'r cyfarwyddiadau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- paratoi a chydosod setiau o harneisiau ceffylau o gydrannau
- glanhau a gofalu am setiau o harneisiau ceffylau i safon sy'n briodol ar gyfer y defnydd a fwriedir
- gwirio harneisiau am arwyddion o draul neu niwed cyn ac ar ôl eu defnyddio
- hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw feysydd sydd yn peri pryder
- adnewyddu eitemau anaddas o harneisiau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- glanhau a storio'r harnais ar ôl ei ddefnyddio
- defnyddio deunyddiau glanhau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwaredu gwastraff yn gywir
- cynnal eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- swyddogaeth a defnydd pob cydran o set o harneisiau ceffylau
- eich cyfrifoldebau mewn perthynas â gwirio harnais am draul neu niwed cyn ac ar ôl ei ddefnyddio, gan hysbysu ynghylch addasrwydd yr harnais ar gyfer ei ddefnyddio, ac adnewyddu unrhyw eitemau anaddas yn unol â'r cyfarwyddiadau
- sut i adnabod arwyddion o draul neu niwed i'r harnais
- peryglon defnyddio eitemau o harnais wedi treulio, rhwygo neu wedi eu niweidio
- dulliau o lanhau'r harnais i'r safon ofynnol ar gyfer y defnydd y'u bwriadwyd
- sut i ofalu am harnais ar ôl ei ddefnyddio, yn cynnwys gofalu am harnais gwlyb
- dulliau o storio harnais pan nad yw'n cael ei ddefnyddio
- y dulliau cywir ar gyfer gwaredu gwastraff
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq238
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; harneisiau; iechyd a lles anifeiliaid