Cefnogi gyrrwr cerbyd wedi ei dynnu gan geffyl tra’n gyrru
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cefnogi gyrrwr cerbyd wedi ei dynnu gan geffyl tra'n gyrru. Mae'n cynnwys gweithredu fel cynorthwyydd i'r gyrrwr yn ystod y daith, monitro a hysbysu'r gyrrwr ynghylch gweithgareddau'r traffig a defnyddwyr eraill y ffordd a chymryd camau priodol yn unol â'r cyfarwyddiadau, gan helpu i drin cyffyrdd, a chadw rheolaeth dros y ceffyl(au) wrth aros.
Byddwch yn gallu addasu harneisiau lle y bo'n briodol. Mae'r uned hon hefyd yn cynnwys gallu mynd ar gerbyd wedi ei dynnu gan geffyl ac oddi arno tra'i fod yn symud, a rhedeg o flaen y ceffyl(au). Byddwch yn gallu gweithio gydag eraill fel rhan o'r criw gyrru.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynorthwyo i gynnal gwiriadau diogelwch fel mater o drefn cyn y daith
- cefnogi gyrrwr y cerbyd wedi ei dynnu gan geffyl trwy fonitro a hysbysu ynghylch peryglon posibl a allai effeithio ar yrru'r ceffylau a'r cerbyd yn ddiogel
- monitro adweithiau ceffylau i wrthrychau a sefyllfaoedd a hysbysu'r gyrrwr ynghylch y rhain
- mynd ar gefn ac oddi ar gefn y cerbyd wedi ei dynnu gan geffyl fel y bo'n briodol yn ystod y daith
- cynorthwyo i drin cyffyrdd a rhwystrau ar y ffordd
- gwneud addasiadau i'r harnais a'r cerbyd wedi ei dynnu gan geffyl tra'n gyrru yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynorthwyo i gadw rheolaeth dros geffylau tra'n aros
- gwirio a gofalu am geffylau ar ôl eu defnyddio; hysbysu ynghylch unrhyw feysydd sydd yn peri pryder a gweithredu i gynnal lles y ceffylau, yn unol â'r cyfarwyddyd
- gwirio'r harnais a'r cerbyd wedi ei dynnu gan geffyl, hysbysu ynghylch unrhyw fannau traul neu niwed, a gweithredu'n unol â'r cyfarwyddiadau
- cynnal eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â chefnogi'r gyrrwr yn ystod y daith
- y gyfraith a'r codau ymarfer yn ymwneud â gyrru ceffylau harnais ar y ffordd fawr ac oddi arni
- sut i wneud gwiriadau fel mater o drefn cyn y daith ar geffylau, harneisiau a cherbydau wedi eu tynnu gan geffylau
- sut i fynd ar gefn ac oddi ar gefn cerbyd yn ddiogel tra'n symud
- sut i gynhorthwy i drin cyffyrdd a symud allan i mewn i draffig
- sut i gynorthwyo gyda thrin pyrth a rhwystrau
- pwysigrwydd bod yn effro i weithgareddau defnyddwyr eraill y ffordd
- pwysigrwydd gallu ffurfio barn am weithgareddau defnyddwyr eraill y ffordd mewn perthynas â'r cerbyd sy'n cael ei dynnu gan geffylau, ac i gyfathrebu'n effeithiol gyda'r gyrrwr
- sut i gyfathrebu'n effeithiol gyda defnyddwyr eraill y ffordd
- ymddygiad arferol ceffylau tra'n cael eu gyrru, a sut i gynorthwyo gyda'r gwaith o gadw rheolaeth dros geffylau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- sut i gadw rheolaeth effeithiol dros geffylau tra'n sefyll
- sut i adnabod arwyddion straen neu aflonyddwch yn y ceffyl wedi ei harneisio tra'n cael ei yrru a thra'n sefyll
- y camau i'w cymryd i leihau neu ddileu straen yn y ceffyl wedi ei harneisio, tra'n cael ei yrru a thra'n sefyll
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Mae gweithgareddau gyrru'n cynnwys:
ymarfer a hyfforddi
hyfforddiant ac addysgu
- arddangos
- gyrru mewn cylch sioe
- ar y ffordd fawr
- oddi ar y ffordd fawr