Cynorthwyo wrth ymdrin â chesig ac ebolion
URN: LANEq236
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynorthwyo wrth ymdrin â chesig ac ebolion. Gallai hyn gynnwys dal, arwain a throi caseg ac ebol allan i'r cae, a dal caseg ac ebol i gael eu harchwilio neu eu trin. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y weithdrefn diddyfnu.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at a chynorthwyo wrth ymdrin â'r gaseg a'r ebol mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffylau a'r perygl i chi eich hun ac i eraill
- troi caseg ac ebol allan yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cyflwyno caseg ac ebol i geffylau eraill
- dal a dod â chaseg i mewn yn unol â'r cyfarwyddiadau
- dal caseg ac ebol i gael eu harchwilio, yn unol â'r cyfarwyddyd
- cynorthwyo gyda'r broses ddiddyfnu, yn unol â'r gweithdrefnau
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas
- cynnal eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i ymdrin â chesig ac ebolion
- y gofynion ar gyfer cyflwyno caseg ac ebol i geffylau eraill
- y dulliau ar gyfer dal cesig ac ebolion i gael archwiliad milfeddygol neu driniaethau arferol
- yr oed arferol ar gyfer diddyfnu ebol
- dulliau diddyfnu ac adweithiau'r ebol i ddiddyfnu
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth ymdrin â chaseg ac ebol, a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Ymdrin â chaseg ac ebol tra’n:
- dal caseg ac ebol yn y stabl
- troi caseg ac ebol allan
- dod â chaseg ac ebol i mewn o'r cae
- dal caseg neu ebol i gael archwiliad neu driniaeth
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq236
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; caseg; ebol; cae; diddyfnu