Cynorthwyo caseg i fwrw ebol

URN: LANEq235
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynorthwyo caseg i fwrw ebol. Bydd hyn yn cynnwys paratoi'r bocs bwrw ebol, adnabod arwyddion bod caseg ar fin bwrw ebol, arsylwi caseg yn bwrw ebol ac ymdrin â'r ebol newydd-anedig.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. paratoi bocsys bwrw ebol yn unol â'r cyfarwyddiadau
  3. paratoi a chynorthwyo i ddefnyddio'r offer priodol sydd ei angen ar gyfer bwrw ebol
  4. adnabod y prif arwyddion bod caseg ar fin bwrw ebol a hysbysu'r person priodol ynghylch y rhain
  5. cynorthwyo caseg i fwrw ebol yn unol â'r cyfarwyddiadau
  6. ymdrin â'r ebol newydd-anedig mewn ffordd briodol, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  7. cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas
  8. cynnal iechyd a diogelwch ceffylau,  chi eich hun ac eraill yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. sut i baratoi bocsys bwrw ebol yn ymwneud â gofynion arbennig y gaseg sy'n bwrw ebol a'r ebol newydd-anedig
  3. y mathau o offer ar gyfer bwrw ebol a'r dulliau o'i gynnal mewn cyflwr addas i'w ddefnyddio
  4. prif gyfnodau bwrw ebol yn cynnwys arwyddion bod caseg ar fin bwrw ebol
  5. y cymorth y gall fod angen i chi ei ddarparu wrth i gaseg fwrw ebol
  6. y problemau a allai ddigwydd a phryd dylid galw'r milfeddyg
  7. adweithiau'r gaseg i'r ebol newydd-anedig
  8. sut i ymdrin ag ebol newydd-anedig
  9. sut i gynnal cofnodion bwrw ebol
  10. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth i gaseg fwrw ebol a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  11. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  12. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Cynorthwyo caseg i fwrw ebol ar un achlysur o leiaf:

  • paratoi bocs bwrw ebol

  • paratoi offer bwrw ebol

  • adnabod arwyddion bod caseg ar fin bwrw ebol
  • ymdrin â'r ebol newydd-anedig

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq235

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; ebol; caseg; stalwyn; beichiogrwydd; newydd-anedig