Cynorthwyo i gael cesig i fwrw ebol
URN: LANEq234
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i gael cesig i fwrw ebol. Gallai hyn gynnwys herian caseg a'i sganio neu gynorthwyo i baratoi caseg ar gyfer ffrwythloni artiffisial, gan adnabod arwyddion caseg mewn tymor a chwblhau cofnodion stalwyni priodol.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynorthwyo i gael cesig i fwrw ebol trwy ddal, cyflwyno a lleoli'r gaseg yn gywir o dan oruchwyliaeth a lle y bo'n briodol, cynorthwyo i sganio'r gaseg, ar gyfer ffrwythloni naturiol neu ffrwythloni artiffisial
- nodi adweithiau'r gaseg i geffylau eraill, yn arbennig gwrywod a hysbysu'r person priodol ynghylch y rhain
- rhoi gwybodaeth ar gyfer cwblhau dogfennau stalwyni
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y rhesymau dros herian a/neu sganio i ganfod oestrws naill ai ar gyfer ffrwythloni naturiol neu ffrwythloni artiffisial
- pwysigrwydd arsylwi arwyddion o oestrws
- y broses ffrwythloni neu 'ffrwythloni artiffisial (A.I.) a'r defnydd cywir o stociau yn y naill achos a'r llall
- prif gyfnodau oestrws yn y gaseg
- adweithiau stalwyni i gesig gydag oestrws
- y pwyntiau i fod yn ymwybodol ohonynt wrth weithio gyda herwyr a stalwyni, yn cynnwys peryglon posibl
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth atgenhedlu, a'r dulliau o gyflawni hyn
- pwysigrwydd cynnal dogfennau stalwyni a'r math o wybodaeth y mae angen ei chofnodi
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cynnal y wybodaeth ganlynol am y stalwyn:
- dyddiad bwrw ebol
- cesig
- stalwyni
- herian a ffrwythloni
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq234
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; caseg; ebol; beichiogrwydd, herian; stalwyn