Gofalu am geffylau sy’n cael eu hadsefydlu

URN: LANEq233
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gofalu am geffylau sy'n cael eu hadsefydlu.

Dylech fod yn gallu nodi a monitro cynnydd iechyd a llesiant ceffyl, a chynorthwyo gweithwyr gofal iechyd gyda'u gwaith. Dylech allu gweithio gyda cheffylau sydd yn byw ar eu pen eu hunain a'r rheiny sydd mewn grwpiau.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. gofalu am geffylau sy'n cael eu hadsefydlu trwy sefydlu'r ceffyl yn ei lety
  3. paratoi dognau porthiant yn unol â'r cyfarwyddiadau
  4. paratoi porthiant mewn ffordd sydd yn addas ar gyfer cyflwr ac ymddygiad y ceffyl
  5. nodi a hysbysu ynghylch unrhyw batrymau neu anawsterau ymddygiadol
  6. monitro pwysau ceffylau fel un arwydd o gynnydd tuag at iechyd gwell
  7. darparu ymarfer ar gyfer ceffylau yn unol â'r cynllun adsefydlu
  8. monitro cynnydd iechyd a llesiant y ceffyl yn unol â'r cynllun adsefydlu
  9. cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas
  10. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. ymddygiad ceffylau sy'n byw ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau a sut y gallai hyn effeithio ar eu gofal
  3. gofynion deietegol sylfaenol ceffylau sydd o dan bwysau a'r rheiny sydd dros bwysau
  4. y cyfundrefnau ymarfer corff posibl ar gyfer ceffylau sy'n cael eu hadsefydlu a goblygiadau iechyd a diogelwch y rhain
  5. gofynion stabl a/neu gae bychan ar gyfer cyflyrau penodol
  6. y technegau sydd ar gael i leddfu diflastod ac atal straen wrth ymdrin â cheffylau â chyflyrau penodol
  7. y technegau ymdrin wrth ymdrin â cheffylau â chyflyrau penodol
  8. y problemau'n ymwneud â gorffwys ceffyl mewn bocs
  9. anatomeg a ffisioleg sylfaenol ceffylau, yn cynnwys y systemau traul ac ysgerbydol
  10. pam y mae'n bwysig dilyn cynllun adsefydlu a phwysigrwydd rhoi adborth ar gynnydd
  11. problemau moesegol wrth benderfynu ar ewthanasia
  12. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth adsefydlu ceffyl
  13. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  14. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Gofalu am a monitro'r ceffylau canlynol:

  • y rheiny ag iechyd cyffredinol da

  • y rheiny ag iechyd gwael

Darparu dognau porthiant i'r ceffylau canlynol:

  • y rheiny sydd o dan bwysau
  • y rheiny sydd dros bwysau

Sefydlu'r ceffylau canlynol yn eu llety:

  • ceffylau sydd yn byw ar eu pen eu hunain
  • ceffylau sydd yn byw mewn grwpiau

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfundrefnau ymarfer corff:

  • tywys
  • marchogaeth
  • cerdded ceffyl
  • mewn llaw
  • nofio
  • arwynebeddau gwahanol
  • pori

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq233

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; adsefydlu; iechyd a lles anifeiliaid