Cynorthwyo gyda gweithgareddau marchogaeth ar gyfer marchogion â gofynion arbennig

URN: LANEq232
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynorthwyo gyda gweithgareddau marchogaeth ar gyfer marchogion â gofynion arbennig.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. cynorthwyo gyda'r gweithgareddau marchogaeth ar gyfer marchogion â gofynion arbennig trwy arwain y ceffyl i'r man gofynnol a chadw pellterau diogel, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  3. monitro marchogion trwy gydol y gweithgaredd hwn, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  4. cysylltu a rhoi adborth i'r hyfforddwr a chynorthwywyr eraill trwy gydol y gweithgaredd
  5. hysbysu'r hyfforddwr ynghylch unrhyw sefyllfaoedd peryglus yn brydlon
  6. cyfathrebu gyda'r marchogion gan ddefnyddio dulliau priodol i gyd-fynd â gofynion unigol
  7. dilyn cyfarwyddiadau'r hyfforddwr bob amser
  8. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. y mathau gwahanol o arwain a phryd y mae pob un yn briodol
  3. y rhesymau pam y mae ochr gerdded yn angenrheidiol
  4. y rhesymau pam y mae'n rhaid monitro marchogion yn barhaus
  5. sut i adnabod straen a thrallod mewn marchgion a cheffylau a'r camau priodol i'w cymryd
  6. y mathau sylfaenol o gyflyrau a gofynion arbennig y marchogion a sut maent yn effeithio ar y marchogaeth
  7. y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws a sut i ymdrin â nhw
  8. pam y mae'n hanfodol cyfathrebu gyda'r marchogion a phobl eraill trwy gydol y gweithgaredd
  9. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Cynorthwyo marchogion gwahanol yn ystod tair taith/sesiwn farchogaeth


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arwain:

  • lefel un – arwain yn agos – yr arweinydd sy'n rheoli
  • lefel dau – tennyn hwy– mae gan y marchog fwy o reolaeth
  • lefel tri – mae'r arweinydd yno mewn argyfwng yn unig – mae'r marchog yn annibynnol bron

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq232

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; marchogaeth; gofynion arbennig