Cynorthwyo marchogion i fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffyl

URN: LANEq231
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynorthwyo marchogion i fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffyl.

Gallai hyn gynnwys marchogion â gofynion arbennig.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3. gwirio gofynion y marchogion a pharatoi unrhyw gymhorthion sydd eu hangen i fodloni anghenion y marchog
  4. cynnal y gwiriadau diogelwch priodol ar harneisiau ac offer
  5. gosod y ceffyl yn gywir yn yr ardal mynd ar gefn ac oddi ar gefn y ceffyl
  6. cynorthwyo marchogion i fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffyl, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  7. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3. y dulliau gwahanol o fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffyl a sut y cânt eu gweithredu
  4. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion wrth fynd helpu marchogion i fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffyl
  5. yr ystyriaethau diogelwch wrth fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffyl
  6. y problemau yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws a sut i ymdrin â nhw
  7. sut i osod y ceffyl yn yr ardal mynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffyl
  8. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  9. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Cynorthwyo tri marchog i fynd ar gefn ceffyl gan ddefnyddio'r cymhorthion **canlynol:

  • codi ar y ceffyl

  • blociau

  • rampiau

Cynorthwyo tri marchog i fynd oddi ar gefn ceffyl


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq231

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; mynd ar gefn; mynd oddi ar gefn; marchogion