Paratoi ceffylau i gael eu marchogaeth gan farchogion â gofynion arbennig
URN: LANEq230
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phoaratoi ceffylau i gael eu marchogaeth gan farchogion â gofynion arbennig.
Bydd angen i chi wirio cofnodion marchogion, paratoi ceffyl iddynt ei farchogaeth a sicrhau bod marchogion wedi eu gwisgo yn gywir ac yn ddiogel.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau o weithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- gwirio gofynion y marchog a pharatoi unrhyw offer sydd ei angen i fodloni anghenion y marchog
- paratoi ceffylau penodol i gael eu marchogaeth, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- addasu harneisiau i gyd-fynd â marchogion unigol, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- hysbysu arweinydd y grwp yn brydlon ynghylch unrhyw sefyllfaoedd peryglus
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- sut y mae gofynion arbennig y marchog yn effeithio ar ei farchogaeth ef neu hi
- y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws a sut y dylid ymdrin â nhw
- sut i baratoi ceffyl addas i gael ei farchogaeth yn unol â gofynion arbennig y marchog
- pwysigrwydd gwirio a chynnal cofnodion y marchog
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Paratoi dau geffyl gwahanol ar gyfer marchogion â gofynion arbennig.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq230
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; marchogaeth; trefniadau arbennig; anabl